Neidio i'r prif gynnwy

Ymarferwyr Cyffredinol Wrth Gefn

Hand typing on a smartphone

Pecyn o gymorth ariannol ac addysgol yw Cynllun Ymarferwyr Cyffredinol Wrth Gefn GIG Cymru, sydd â’r nod o gadw meddygon yn gweithio mewn ymarfer cyffredinol.

Mae’r cynllun yn berthnasol i bob meddyg ar gofrestr GMC sydd â thrwydded i ymarfer. Nod y cynllun yw cefnogi medygon sydd wedi gadael, neu sy’n ystyried gadael ymarfer cyffredinol am y rhesymau canlynol:

  1. nesau at ymddeol, neu
  2. angen rhagor o hyblygrwydd i wneud gwaith arall o fewn ymarfer cyffredinol neu fel arall; neu
  3. am resymau eraill yn ymwneud ag amgylchiadau personol y meddyg hwnnw y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn eu hystyried yn dderbyniol, at ddibenion y Cynllun hwn.

Cafodd y cynllun blaenorol ei adolygu gan Lywodraeth Cymru, a chafodd cynllun newydd ei sefydlu ar 30 Awst 2019. Rydym yn gyfrifol am gymeradwyo ceisiadau wrth gefn newydd a phractisau all fod yn dymuno bod ag ymarferydd wrth gefn. Os yw’r practis yn bractis hyfforddiant cymeradwy, does dim angen cael cymeradwyaeth eto o ran ymarferwyr wrth gefn. Gall Ymarferydd Wrth Gefn weithio hyd at 4 o sesiynau clinigol fesul wythnos yn y practis. Rhaid i unrhyw geisiadau i weithio mwy na hyn fod yn ysgrifenedig er mwyn i Ddirprwy Gyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant Ymarfer Cyffredinol.

Gallwch gael rhagor o fanylion yn y cwestiynau cyffredin isod ac yn y ddogfen ganllaw..

Cwestiynau Cyffredin

Sut ydw i’n gwneud cais ar gyfer y cynllun?

Llenwch y ffurflen gais a’i hanfon dros e-bost i heiw.gpretainer@wales.nhs.uk gan gopïo NWSSP-primarycareservices@wales.nhs.uki mewn

Beth os nad ydw i wedi gweithio ym maes ymarfer cyffredinol ers mwy na 2 flynedd?

Os nad yw meddyg wedi gweithio ers dros 2 flynedd, byddai’n briodol gwneud cais i’r cynllun Adsefydlu a Gloywi MT.

Rwy’n ymarferydd cyffredinol wrth gefn ar hyn o bryd, a fydd y cynllun blaenorol yn dal i fod yn berthnasol i mi?

Bydd y meddygon hynny ar y cynllun ar hyn o bryd yn trosglwyddo i’r cynllun newydd o 1 Ebrill 2020 ymlaen.

Ar y cynllun blaenorol, ro’n i’n derbyn taliad DPP blynyddol i gefnogi fy natblygiad addysgol, pa gymorth fydd ar gael nawr?

Bydd meddygon ar y cynllun blaenorol yn derbyn eu taliad DPP blynyddol hyd at 31 Mawrth 2020. Ar ôl hynny, byddant yn trosglwyddo i drefniadau ariannol y cynllun newydd, a bydd taliadau DPP blynyddol gan AaGIC yn dod i ben.

Pa drefniadau ariannol sydd ynghlwm wrth y cynllun newydd?

Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn y ddogfen ganllaw, a drwy siarad gyda’r  (rhan o Bartneriaeth Gwasanaethau a Rennir GIG Cymru) fydd yn cydlynu’r trefniadau cyllid gyda’r Bwrdd Iechyd perthnasol.

Dogfennau ategol

Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, e-bostiwch heiw.gpretainer@wales.nhs.uk