Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglenni Sefydlu Rhyngwladol a Dychwelyd i Ymarfer Meddygon Teulu

Lineup of doctors

P'un a oes gennych brofiad y GIG ai peidio, mae Rhaglen Sefydlu Rhyngwladol Meddygon Teulu'r GIG (IIP) a rhaglen Dychwelyd i Ymarfer (RtP) wedi'u cynllunio i fod yn llwybr diogel, â chymorth ac uniongyrchol i feddygon teulu cymwys ymuno neu ddychwelyd i Feddygfa Gyffredinol y GIG.

Os ydych wedi cymhwyso fel meddyg teulu y tu allan i'r DU ac erioed wedi gweithio fel meddyg teulu yn y DU o'r blaen, cliciwch ar y ddolen i ddarganfod mwy am y Rhaglen Sefydlu Ryngwladol Meddygon Teulu.

Os ydych chi wedi hyfforddi neu weithio fel meddyg teulu yn y DU o'r blaen, yna cliciwch ar y ddolen i ddarganfod mwy am y rhaglenni Dychwelyd i Ymarfer sydd ar gael

Bydd y rhaglenni a ddarperir yn cael eu teilwra i ddiwallu eich anghenion, eich profiadau a'ch ymrwymiadau personol. Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y cynllun priodol bydd gennych fynediad i'ch rheolwr cyfrif pwrpasol eich hun i'ch tywys trwy'r broses. Byddwch hefyd yn cael asesiad o anghenion gyrfa ac addysg gyda'r Deon Cyswllt Meddygon Teulu lleol.

Beth sydd ar gael

I gael unrhyw wybodaeth bellach am unrhyw un o'r rhaglenni hyn, e-bostiwch yr Ysgol Hyfforddi Meddygon Teulu ar HEIW.GPTraining@wales.nhs.uk