Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniau hyfforddiant MT

Os ydych yn gwneud cais i ddod yn Feddyg Teulu, mae’r wybodaeth isod yn dangos pa gynlluniau sydd ar gael yng Nghymru, a’r arbenigeddau y mae pob cynllun yn eu cynnwys.

 

Rhyddhau hanner-diwrnod (HDR)

Mae pob cynllun yn trefnu cwrs rhyddhau hanner diwrnod ar gyfer hyfforddai GP. Mae pwysigrwydd mawr yn cael ei roi ar y ffaith fod trafod mewn grwp yn ffordd pwerus o ddysgu. Mae’r HDR yn cael ei ddarparu wyneb-yn-wyneb, y prif reswm am hyn yw’r gwerth ddaw o hyfforddi wyneb-yn-wyneb. Ar gychwyn y cynllun, bydd Cyfarwyddwyr y Rhaglen yn darparu’r hyfforddai ar y cynllun gyda sefydliad (induction) i ddatblygu cydlynoldeb grwp a dealldwriaeth o cwmpas hyfforddiant meddygon teulu yn nhermau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-ymwybyddiaeth.

Mae pynciau yn hyblyg yn y sesiynau yma ac mae disgwyl i hyfforddai gyfrannu yn rheolaidd. Mae adborth gan hyfforddai yn darparu gwybodaeth bwysig ar gyfer newid a datblygu’r rhaglen. Yn ogystal â bod yn rhan bwysig o’r dysgu ar y cynllun, mae pob grŵp blwyddyn yn ymddwyn fel rhwydwaith cymdeithasol a chefnogol. Mae HDR yn cymryd lle ar yr un diwrnod pob wythnos.