Lleolir y cynllun hwn yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae’n elwa ar gymuned ymroddedig a chlos o feddygon teulu a meddygon ysbyty sy’n cydweithio i ddarparu addysg o’r safon uchaf.
Gall y lleoliadau safle a restrir uchod ar gyfer pob swydd amrywio oherwydd newidiadau sefydliadol o fewn yr adran neu'r practis cynhaliol. Gellir disgwyl i hyfforddeion deithio i leoliad gwahanol yn ystod eu lleoliad e.e i feddygfa gangen.
Nid oes cylchdroadau sefydlog ar gael. Fodd bynnag, mae Cyfarwyddwyr Rhaglen Meddygon Teulu yn ystyried profiad blaenorol pob hyfforddai yn yr ysbyty ac yn ceisio cynnig swyddi sy'n ategu hynny. Mae hyn yn sicrhau bod gan ein meddygon teulu dan hyfforddiant sylfaen eang o brofiad ysbyty. Ni ellir gwarantu hyn ac mae'n dibynnu ar y cylchdroadau ysbyty sydd ar gael ar gyfer pob rownd recriwtio. Ni all hyfforddeion ddewis eu practis hyfforddi meddygon teulu gan fod y dyraniad yn dibynnu ar argaeledd ar adeg gosod y cylchdroadau.
Mae paratoi ar gyfer arholiadau MRCGP yn elwa o fod un o'r Cyfarwyddwyr Rhaglen yn Arholwr RCGP.
Mae llawer o’r meddygon teulu sy’n gweithredu fel eich Goruchwylwyr Addysgol yn gynnyrch y cynllun ac mae pob un ohonynt yn feddygon brwdfrydig a chyfeillgar sy’n awyddus i sicrhau eich llwyddiant fel meddyg teulu dan hyfforddiant.
Mae rhyddhau hanner diwrnod (HDR) yn hanner diwrnod o addysgu y mae'n rhaid i bob meddyg teulu dan hyfforddiant ei fynychu bob wythnos.
Mae maint ein cynllun yn caniatáu i ni gyfarfod fel un grŵp ar ryddhau hanner diwrnod (HDR). Rydym yn rhoi gwerth mawr ar gymorth cymheiriaid yn ogystal ag ymdrechu i ddarparu rhaglen hyfforddi amrywiol sydd ag adnoddau da.
Mae manylion cyswllt cyfarwyddwr rhaglen hyfforddi ar gael yma - Manylion cyswllt - AaGIC (gig.cymru)
Gweinyddwyr y Cynllun - Deryn Evans ac Adam Mckenna
Ein nod yw rhoi rhaglen hyfforddi gefnogol a chyfeillgar i feddygon teulu dan hyfforddiant gyda’r cyfle i fwynhau byw mewn rhan brydferth o Gymru. Mae lleoliad canolog y cynllun yn sicrhau mynediad hawdd i fynyddoedd ac arfordir godidog Gogledd Cymru, yn ogystal â dinasoedd mawr Ogledd Orllewin Lloegr fel Lerpwl a Manceinion.