Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddwyr

Doctor smiling

Dod yn Hyfforddwr Meddygon Teulu yng Nghymru

Mae Hyfforddwyr Meddygon Teulu (sy’n cael eu galw’n Oruchwylwyr Addysgol Meddygon Teulu) yn rhan hanfodol o’r gweithlu Meddygon Teulu ac yn cefnogi meddygon teulu dan hyfforddiant yn eu haddysg a’u datblygiad. Nod y cwrs i Ddarpar Hyfforddwyr yw rhoi’r sgiliau, yr agweddau a’r cymwyseddau angenrheidiol i gyfranogwyr i gefnogi ac addysgu meddygon teulu dan hyfforddiant yn effeithiol.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cymeradwyo Hyfforddwyr Meddygon Teulu a Phractisau Hyfforddi Meddygon Teulu ar ran y Cyngor Meddygol Cyffredinol ac yn rhoi gwybod iddynt am fanylion yr holl hyfforddwyr cymeradwy a’r practisau hyfforddi.  Gall Hyfforddwyr Meddygon Teulu cymeradwy ddarparu goruchwyliaeth glinigol ac addysgol i feddygon teulu dan hyfforddiant.  Mae’r rhestr o Hyfforddwyr Meddygon Teulu cymeradwy yng Nghymru ar gael yn <https://www.gmc-uk.org/education/how-we-quality-assure/postgraduate-bodies/recognition-and-approval-of-trainers> 

Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am “Gymeradwyo a monitro Hyfforddwyr Meddygon Teulu a Phractisau Hyfforddi Meddygon Teulu yng Nghymru” fan hyn.

 

Amlinelliad o Daith yr Addysgwr Meddygon Teulu

Mae ein siart lif o’r cwrs i Ddarpar Hyfforddwyr Meddygon Teulu yn dangos y broses gyffredinol i ddod yn Hyfforddwr Meddygon Teulu.

Cymhwysedd i gofrestru ar y Cwrs i Ddarpar Hyfforddwyr Meddygon Teulu

Mae gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ddyletswydd i sicrhau bod cydbwysedd priodol rhwng yr hyfforddwyr newydd sy’n cwblhau’r cwrs i ddarpar hyfforddwyr yn llwyddiannus a’r angen am fwy o hyfforddwyr a phractisau hyfforddi mewn maes penodol. Fel arfer, mae AaGIC yn gwahodd ceisiadau gan ddarpar hyfforddwyr a phractisau hyfforddi newydd yn ystod y Gwanwyn drwy e-bostio Gwasanaethau Gofal Sylfaenol Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a fydd yn anfon yr e-bost at bob Practis Meddygol ar ein rhan.  Nid oes gan AaGIC restr aros am lefydd ar y Cwrs i Ddarpar Hyfforddwyr.

Disgwylir i Hyfforddwyr Meddygon Teulu yng Nghymru gael y sgiliau, yr agweddau a’r cymwyseddau i allu cyflawni'n ddigonol ar gyfer y rôl heriol hon.

I fod yn gymwys i gofrestru ar y cwrs i Ddarpar Hyfforddwyr, rhaid i Feddygon Teulu wneud y canlynol:

  • Bodloni'r meini prawf cymhwysedd hanfodol i ymgymryd â'r Cwrs i Ddarpar Hyfforddwyr.
  • Cwblhau'r modiwlau a'r asesiadau sy'n rhan o’r Cwrs i Ddarpar Hyfforddwyr yn llwyddiannus.
  • Os nad yw’r practis yn bractis hyfforddi ar hyn o bryd, bydd angen iddynt gael ymweliad paratoadol gan Reolwr y rhaglen yn lleol cyn y gallant gael eu clustnodi ar gyfer un o’r Cyrsiau i Ddarpar Hyfforddwyr yn y dyfodol.
  • Os oes Hyfforddwr Meddygon Teulu o ran arall o’r DU yn symud i Gymru, ac yn dymuno parhau fel Hyfforddwr, byddent yn cael eu cyfweld gan y Deon Cysylltiol lleol i asesu a byddai angen iddynt fynychu rhywfaint o’r Cwrs i Ddarpar Hyfforddwyr yng Nghymru neu’r cwrs cyfan. Rhoddir ystyriaeth i amseriad a chynnwys eu Cwrs cychwynnol i Ddarpar Hyfforddwyr, a phryd oedd y tro diwethaf iddynt fod yn Oruchwylydd Addysgol ar gyfer hyfforddai (os oes tair blynedd wedi mynd heibio, ystyrir eu bod yn hyfforddwr sydd wedi rhoi’r gorau iddi). Bydd angen iddynt roi tystiolaeth o'u profiad diweddar fel Goruchwylydd Addysgol, ynghyd ag enw eu Deon Cysylltiol neu Gyfarwyddwr Rhaglenni Hyfforddi blaenorol sy'n fodlon darparu geirda. Os ydynt yn symud i bractis nad yw'n bractis hyfforddi, bydd yn rhaid bodloni'r gofynion safonol.

 

Cwrs i Ddarpar Hyfforddwyr

Bydd unigolion yn datblygu dealltwriaeth o egwyddorion addysgol ac yn datblygu ystod o ymyriadau i hwyluso’r broses o addysgu a dysgu. Cânt eu hannog i ddatblygu eu sgiliau drwy ymarfer myfyriol. Mae gan bob cwrs dri modiwl. Mae'r modiwl cyntaf a'r trydydd modiwl dros ddau ddiwrnod a chânt eu cynnal wyneb yn wyneb. Mae'r ail fodiwl ar-lein, ac rydyn ni’n amcangyfrif y bydd angen tri diwrnod llawn i gwblhau'r pecyn dysgu, ac i gwblhau'r tasgau dan sylw. Byddem yn disgwyl i'r practis roi amser ar gyfer pob modiwl.

Mae modiwlau’r Cwrs i Ddarpar Hyfforddwyr wedi’u rhannu rhwng modiwlau ar-lein a chyfarfodydd wyneb yn wyneb. Bydd y modiwlau yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau fel

- Addysg Feddygol (Cynllunio gwersi, arddulliau dysgu, asesu, ymarfer myfyriol etc).

- Asesiad yn y Gweithle (Adnodd asesu gofal, trafodaethau sy’n seiliedig ar achosion, adnodd arsylwi ymgynghoriadau, adborth aml-ffynhonnell, asesiad presgripsiynau etc.

- Cwricwlwm Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ac Adolygiadau Blynyddol o Gynnydd Cymhwysedd - Cymorth i hyfforddeion, yr uned cymorth proffesiynol a chymorth gydag arholiadau.

Ym modiwlau 2 a 3, mae’n cynnwys asesiadau ym maes

  • Cynllunio a chyflwyno tiwtorialau
  • Tasg fyfyrio
  • Adnodd Arsylwi Ymgynghoriadau a Thrafodaethau sy’n seiliedig ar achosion

Y garfan sydd ar y gweill ar y cwrs i Ddarpar Hyfforddwyr

Mae nifer y Cyrsiau rydyn ni’n eu cynnal bob blwyddyn yn dibynnu ar yr angen cyfredol am bractisau hyfforddi newydd a'r angen i gael hyfforddwyr newydd neu i gael mwy o hyfforddwyr mewn practisau hyfforddi sy’n bodoli’n barod. Yn gyffredinol, cynhelir cyrsiau yn yr Hydref a chânt eu cymeradwyo mewn pryd ar gyfer y mis Chwefror canlynol ac yn y Gwanwyn mewn pryd ar gyfer y garfan yn y mis Awst dilynol. Bydd y ffurflen mynegi diddordeb ar gael ar y wefan yn y Gwanwyn a bydd practisau yn cael eu hysbysu drwy’r Byrddau Iechyd pan fydd yn fyw ar ein gwefan. Byddwn hefyd yn defnyddio ein rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu bod y ffenest am geisiadau ar agor.

Yn gyffredinol, cynhelir cyrsiau yn Ne Cymru. Serch hynny, os oes digon o ymgeiswyr o Ogledd Cymru bydd trefnwyr y cwrs yn ystyried cynnal cwrs yng Ngogledd Cymru.

Os oes angen am hyfforddwr/wyr ychwanegol ar frys y tu allan i'r cyfnod recriwtio, mae gennym faen prawf eithriadol sydd i'w weld fan hyn.

Safonau ar gyfer Hyfforddi Meddygon Teulu

Mae meddygon mewn hyfforddiant arbenigol ôl-raddedig i feddygon teulu yn cwblhau 24 mis ym maes meddygaeth deulu yn ystod eu rhaglen 36 mis i hyfforddi meddygon teulu.

Mae’n rhaid i bob meddyg sy’n dymuno bod yn Hyfforddwr Meddygon Teulu nad oes ganddynt Aelodaeth o Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (MRGGP) ddangos eu bod yn gymwys i fod yn aelodau h.y. maen nhw wedi bod yn ymarfer ers 5 mlynedd ac wedi cael eu hailddilysu’n llwyddiannus.

Yn ystod y cyfnod y mae meddyg teulu o dan hyfforddiant mewn swydd hyfforddi yn yr ysbyty, mae ganddynt oruchwylwyr clinigol sy'n goruchwylio eu gwaith ym mhob adran. Serch hynny, mae gan bob meddyg teulu dan hyfforddiant Oruchwylydd Addysgol hefyd sy’n Hyfforddwr Meddygon Teulu ac sy’n goruchwylio eu cynnydd drwy gydol y tair blynedd o Hyfforddiant Arbenigol i Feddygon Teulu.

Disgwylir i Ddarpar Hyfforddwyr Meddygon Teulu fodloni’r safonau a amlinellir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol a’r Llawlyfr Aur - 9fed Rhifyn - Cynhadledd y Deoniaid Meddygol Ôl-raddedig (copmed.org.uk). Dylai Hyfforddwyr Meddygon Teulu gymryd rhan weithredol mewn datblygiad personol.

Mae angen i Oruchwylwyr Addysgol weithio hefyd mewn amgylcheddau dysgu clinigol a gymeradwywyd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol sy'n gefnogol, yn drefnus ac sydd â phrotocolau da ar gyfer llywodraethu clinigol.

Yn ystod y cyfnod ymgeisio, bydd y dogfennau sydd eu hangen i wneud cais i ddod yn Hyfforddwr Meddygon Teulu/Practis Hyfforddi yn cael eu rhestru fan hyn.

Gall ein Cwestiynau Cyffredin isod eich helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych. Fel arall, cysylltwch â ni - heiw.gptraining@wales.nhs.uk

Dogfennau