Neidio i'r prif gynnwy

Tynnu dant anghywir (WTE)

Graphical representation of a tooth removal

Cynhaliodd yr adran ddeintyddol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), ar y cyd â Llywodraeth Cymru, arolwg o achosion o dynnu’r dant anghywir mewn gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol yng Nghymru.

Cafwyd cyfanswm o 380 o ymatebion gan ddeintyddion a therapyddion, a oedd yn nodi nifer o themâu cyffredin a arweiniodd at dynnu’r dant anghywir, yn cynnwys:

  • tynnu orthodontig – methu archwilio achosion o dynnu/ cyfathrebu blaenorol gydag orthodontyddion. Yn yr arolwg hwn, roedd tynnu orthodontig yn cyfrif am oddeutu 50% o’r achosion o dynnu’r dant anghywir
  • diffyg cyfathrebu rhwng clinigwyr, gan gynnwys defnyddio systemau nodiant gwahanol.

Gweler y ffeiliau isod i weld yr adroddiad llawn a rhagor o wybodaeth am ganlyniadau’r arolwg o achosion o dynnu’r dant anghywir.

Fel adnodd defnyddiol i ategu canfyddiadau’r arolwg, mae’r Adran Ddeintyddol, AaGIC, ar y cyd â 1000 o Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi llunio rhestr wirio cyn tynnu dant i’w defnyddio mewn deintyddfeydd. Cliciwch ar y dolenni isod i lwytho’r ddogfen i lawr yn eich dewis iaith. Mae dolen isod hefyd i gael golwg gyffredinol ehangach ar yr offeryn hwn ynghyd â chanllawiau Cymdeithas Orthodontig Prydain y cyfeirir atynt yn y trosolwg.

Gobeithio y bydd y rhestr wirio hon yn ddefnyddiol i leihau’r risg o dynnu dannedd anghywir.