Neidio i'r prif gynnwy

CA- awdit clinigol

Clinical audit graph

Awdit clinigol ar gyfer Timau Ymarfer Deintyddol yng Nghymru

Cyflwyniad

Mae adran ddeintyddol ar gyfer ôl-raddedigion AaGIC yn darparu ac yn hwyluso rhaglenni ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) a gwella ansawdd i unigolion a thimau ymarfer ledled Cymru.

Mae’r rhaglenni hyn yn cael eu datblygu i gynorthwyo a pharatoi timau ymarfer ar gyfer y maes iechyd deintyddol a gofal iechyd deintyddol sy’n newid yn gyflym.

Mae gan y rhai sy’n sbarduno newid yr un nod sef darparu gofal iechyd deintyddol darbodus, sy’n ddiogel, yn syml ac yn sensitif (i anghenion y cleifion).

Mae deintyddfeydd a’u timau wedi cael eu hannog i ymgymryd ag awdit clinigol ac adolygu gan gymheiriaid sy’n cynnwys cymharu gwahanol agweddau ar eu hymarfer yn erbyn arferion da sydd wedi ennill eu plwyf. Nod y gymhariaeth hon oedd nodi meysydd i’w gwella a fyddai’n cael eu hail-archwilio ar ôl eu gweithredu gyda’r canlyniad disgwyliedig o wella’r gwasanaeth a’r gofal i gleifion.

Mae’r llawlyfr diwygiedig ar gyfer archwilio clinigol wedi’i ddylunio i alluogi deintyddfeydd i ymgyfarwyddo â dulliau gwella ansawdd. Bydd y llawlyfr yn rhoi syniadau i’r Timau Ymarfer Deintyddol ar gyfer canfod meysydd i’w gwella yn seiliedig ar sbardunau newid Cenedlaethol a Rhyngwladol.

Mae’r sbardunau hyn ar gyfer newid yn arwain at ymgyrchoedd gwella yn awr ac yn y dyfodol sy’n aml yn cael eu gwreiddio mewn Asesiadau Sicrhau Ansawdd.

Dod yn barthau ar gyfer DPP sy’n datblygu’n ofynion ar gyfer DPP Uwch.

Gwella Ansawdd ac Awdit Clinigol

Y modelau ar gyfer gwella

Mae’r cylch awditclinigol yn annog timau deintyddol i archwilio gwahanol agweddau ar eu hymarfer clinigol eu hunain, i weithredu gwelliannau lle mae’r angen yn cael ei nodi ac ailedrych, o bryd i’w gilydd, ar y meysydd hynny, sydd wedi’u harchwilio i sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd uchel yn cael ei gynnal neu ei wella ymhellach.

Mae gan yr Awdit ei le ym maes Gofal Iechyd, fodd bynnag:

  • mae'n cymryd llawer o amser i gasglu data sy'n dangos yr hyn a wnaethoch neu yr ydych yn ei wneud
  • nid yw’n nodi beth yr ydych am ei wneud yn well
  • nid yw’r awdit yn nodi a yw’r newid a wnaed yn welliant.

Y modelau ar gyfer gwella

Mae’r modelau ar gyfer gwella yn gofyn tri chwestiwn allweddol.

  1. Beth ydyn ni’n ceisio ei gyflawni? Beth sydd angen inni ei wneud yn well?

  2. Os byddwn yn gwneud newidiadau, sut byddwn ni’n gwybod bod newid yn welliant?

  3. Pa newid ellid ei wneud a fydd yn arwain at welliant?

Mae’r cwestiynau hyn yn cael eu defnyddio ar y cyd â phrofion ar raddfa fach mewn cylchoedd “Plan-Do-Study-Act” (PDSA)

Yn y llawlyfr diwygiedig, byddwn yn rhoi enghreifftiau o sut gallwch chi ddefnyddio’r model gwella ansawdd a PDSA fel rhan o’r pynciau gwella.

Beth i'w wneud nesaf?

Yng Nghymru, cyhoeddwyd y cynllun cyflawni ansawdd yn 2012. Mae’r cynllun hwn yn darparu iaith a dull cyffredin a chyson o wella a ddatblygwyd gyda Gwella 1000 o Fywydau.

Mae gwella 1000 o fywydau yn darparu platfform hyfforddi e-ddysgu ar gyfer y termau, y prosesau a’r damcaniaethau sy’n gysylltiedig â gwella ansawdd.

Bydd ymgymryd â hyfforddiant lefel efydd yn rhoi’r canlynol i’r tîm ymarfer:

  • dealltwriaeth o wella ansawdd
  • dwy awr o DPP gwiriadwy gydag ardystiad.

Cyn i chi ddechrau ar archwiliad clinigol wedi’i ariannu neu adolygiad gan gymheiriaid, dylai’r rheini sy’n cymryd rhan fod wedi cael hyfforddiant lefel efydd.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am sefydlu prosiect, pynciau posibl neu’r gwaith papur dan sylw, cysylltwch â’ch tiwtor lleol, neu ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch ag HEIW.DentalQI@wales.nhs.uk