Mae’r Rhaglen Gwella Ansawdd yn gyfres o adnoddau i gefnogi deintyddfeydd a’u timau yn eu datblygiad ôl-radd ac addysg barhaus.
Mae’r rhaglen ddatblygu hon sy’n cael ei chefnogi yn helpu i ganfod a diwallu anghenion addysgol unigolion a thimau mewn deintyddfeydd. Mae rhannu profiadau addysgol yn rhoi i dimau ymarfer yr egwyddorion i’w gwella eu hunain a gwella ansawdd sy’n eu galluogi i addasu a datblygu yn unol â’r cynlluniau ansawdd cenedlaethol presennol.
Mae’r addysgwyr deintyddol gwella ansawdd yn cefnogi ymarfer a datblygiad tîm gyda hyfforddiant yn y practis, cynlluniau datblygiad personol a rhai ar gyfer y practis, defnyddio Matrics Aeddfedrwydd Deintyddiaeth ac Awdit Clinigol. Bydd y sbectrwm o gyfrifoldebau a gweithgareddau’n cael ei gyfuno’n rhaglen gydlynol i gwrdd â datblygiad yr unigolyn a’r tîm yn y ddeintyddfa.
Mae defnyddio’r adnoddau gwella ansawdd hyn hefyd yn cyfrannu at sicrhau ffyniant i bawb, strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru i adeiladu Cymru sy’n iach, yn egnïol, yn ffyniannus ac yn ddiogel, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, ac sy’n unedig ac yn gysylltiedig.
Mae’r adran ddeintyddol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi bod yn gweithio gyda 1000 o Fywydau i gynhyrchu canllaw gwella ansawdd ar gyfer timau deintyddol, er mwyn helpu i wella eu harferion, eu gwaith tîm a’u gofal i gleifion. Mae’r canllaw hwn ar gael i’w lwytho i lawr yma. Mae rhagor o wybodaeth am yr arfau datblygu ymarfer ar gael ar y safle hwn yn ogystal â gwybodaeth am brosiectau awdit cenedlaethol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am ddulliau gwella ansawdd eich practis deintyddol, cofrestrwch eich diddordeb drwy anfon e-bost at HEIW dental QI.