Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect Archwilio Clinigol a Gwella Ansawdd

Mae prosiectau Archwilio Clinigol a Gwella Ansawdd yn gallu gwella ansawdd a diogelwch gwasanaethau yn barhaus, gan arwain yn y pen draw at ganlyniadau gwell i gleifion.  

  • Mae archwiliadau clinigol yn cynnwys adolygu arferion gofal iechyd yn systematig yn ôl safonau y cytunwyd arnynt er mwyn nodi meysydd i'w gwella a chyflwyno newidiadau.  

  • Mae’r prosiectau Gwella Ansawdd yng Nghymru yn defnyddio'r Model Gwelliant sy'n gofyn tri chwestiwn allweddol. 

  • Beth ydym yn ceisio ei gyflawni?  

  • Os byddwn yn cyflawni newid, sut fyddwn ni'n gwybod bod newid yn welliant? 

  • Pa newid y gallwn ei gyflawni a fydd yn arwain at welliant? 

  • Defnyddir y cwestiynau hyn ar y cyd â phrofion ar raddfa fach mewn cylchoedd “Cynllunio-Arbrofi-Astudio-Gweithredu” (PDSA). 

Mae prosiectau Archwilio Clinigol a Gwella Ansawdd yn denu cyllid a DPP ar gyfer holl aelodau cofrestredig y CDC y tîm deintyddol. 

 

Enghreifftiau o Brosiectau Archwilio Clinigol a Gwella Ansawdd 

Gofal Sylfaenol Gwyrddach 

Prosiect Gwella Ansawdd Courtland Dental Centre 

Prosiect Gwella Ansawdd Fountain Dental Centre 

Prosiect Gwella Ansawdd Whitcombe Dental Centre 

Prosiect Gwella Ansawdd Bryant Dental Practice

Prosiect Gwella Ansawdd Cefn Coed Dental Practice