Adeiladu Cymru iachach ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol
Mae'r penderfyniadau a wnawn heddiw yn llywio iechyd, lles a chyfleoedd cenedlaethau'r dyfodol. Yn AaGIC, mae gennym rôl bwysig i'w chwarae wrth helpu i greu gweithlu iechyd a gofal cynaliadwy, medrus, tosturiol a chynhwysol sy'n gallu diwallu anghenion pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn darparu fframwaith ar gyfer gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'n annog cyrff cyhoeddus i edrych y tu hwnt i'r tymor byr, cydweithio, cynnwys pobl a chymunedau, ac atal problemau cyn iddynt godi.
Fel sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am addysg, hyfforddiant, datblygu a gwella'r gweithlu ledled GIG Cymru, rydym yn cydnabod bod ein penderfyniadau'n cael effaith sy'n ymestyn y tu hwnt i'n sefydliad ein hunain. Drwy gefnogi'r bobl sy'n darparu gwasanaethau iechyd a gofal, gallwn helpu i wella ansawdd a chynaliadwyedd gwasanaethau, lleihau anghydraddoldebau a chyfrannu at Gymru iachach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.