Mae'r Safonau ar gyfer Sicrwydd Cymhwysedd Rhagnodwyr Annibynnol ac Atodol yng Nghymru wedi'u datblygu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. Maent yn cefnogi dull “Unwaith i Gymru” o sicrhau ansawdd, diogelwch a chymhwysedd parhaus y gweithlu rhagnodwyr anfeddygol (NMP) ledled Cymru. Mae'r safonau'n nodi'r gofynion lleiaf ar gyfer dangos tystiolaeth o gymhwysedd rhagnodi ac adolygu hynny ar gyfer rhagnodwyr anfeddygol a'u cyflogwyr.
Mae pob rhagnodwr anfeddygol yn gyfrifol am ymarfer o fewn eu cwmpas a'u cymhwysedd, gan gymhwyso eu gwybodaeth, eu barn a'u sgiliau'n briodol, a gallu darparu tystiolaeth o'u cymhwysedd rhagnodi. Mae cymhwyso'r safonau yn gyfrifoldeb amlddisgyblaethol.
Mae'r safonau'n berthnasol i bob rhagnodwr anfeddygol cofrestredig sy'n darparu gwasanaethau'r GIG yng Nghymru, gan gynnwys rhagnodwyr annibynnol, nyrsys cymunedol sy’n rhagnodi (community practitioner nurse prescribers) a rhagnodwyr atodol, ar draws pob sector ymarfer.
At ddibenion y safonau hyn, nid yw'r diffiniad o ragnodi wedi'i gyfyngu i'r weithred o ysgrifennu rhagnodyn. Mae'n cynnwys y cymwyseddau ehangach sy'n gysylltiedig â phenderfyniadau rhagnodi—megis dad-ragnodi neu addasu dosau therapiwtig— yn unol â Fframwaith Cymhwysedd y Coleg Brenhinol Fferylliaeth (RCPharm) ar gyfer pob rhagnodwr. Nid yw pob gweithred lle mae cynnyrch yn cael ei gyflenwi yn cael ei dosbarthu fel rhagnodi. Nid yw gweithgareddau a ddarperir yn unig drwy gyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) neu systemau archebu di-rhagnodi ar-lein (ONPOS) yn cael eu dosbarthu fel rhagnodi ac felly nid ydynt yn dod o dan y Safonau Sicrwydd Cymhwysedd hyn.
Safonau ar gyfer Sicrhau Cymhwysedd Rhagnodwyr Annibynnol ac Atodol yng Nghymru
Cylchlythyr Iechyd Cymru WHC/2024/02
Darparu Presgripsiynau Annibynnol ac Atodol yng Nghymru
RCPharm: Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer pob Rhangodwyr
Mae 4 safon ar gyfer sicrhau cymhwysedd Rhagnodwyr Annibynnol ac Atodol. Dyma nhw:
Mae 4 safon ar gyfer gofyniad sicrhau cymhwysedd i gyflogwyr. Dyma nhw:
Mae Sefydliadau'r GIG ac AaGIC yn datblygu'r prosesau a'r canllawiau sydd eu hangen i weithredu'r Safonau Sicrwydd Cymhwysedd a chefnogi'r gweithlu rhangodi anfeddygol (NMP).
O 31 Mawrth 2026 ymlaen, bydd llawer o'r safonau'n dod i rym. Bydd y broses arfarnu rhagnodi yn cael ei chyflwyno'n raddol, gan ddechrau gyda phrosiect peilot sy'n cynnwys nifer fach o NMPs. Mae gweithrediad ehangach wedi'i gynllunio o fis Ionawr 2027.
Dylech wirio gyda'ch cyflogwr neu Gomisiynydd Gwasanaeth y GIG i ddarganfod pryd mae eich arfarniad rhagnodi wedi'i drefnu.
Er mwyn cefnogi gweithrediad y Safonau Sicrwydd Cymhwysedd, mae AaGIC wedi bod yn gweithio'n agos gyda Sefydliadau'r GIG ledled Cymru i ddatblygu'r prosesau a'r canllawiau sydd eu hangen ar gyfer cyflwyno'n llwyddiannus. Mae amrywiaeth o adnoddau wedi'u creu i helpu sefydliadau i ddeall eu cyfrifoldebau a sicrhau bod rhangodwyr anfeddygol yn cael eu cefnogi i fodloni'r safonau.
Crynodeb o'r Broses i Gydymffurfio â Safonau - sector a reolir Mawrth 2026
Mae'r Safonau Sicrwydd Cymhwysedd yn berthnasol i bob rhangodwr anfeddygol (NMPs) sy'n darparu gwasanaethau'r GIG i gleifion yng Nghymru. Fodd bynnag, mae amserlenni ar gyfer cydymffurfio yn amrywio yn dibynnu ar eich cyflogwr:
Mae amrywiaeth o adnoddau wedi'u creu amrywiol i gefnogi rhangodwyr anfeddygol i gydymffurfio â'r safonau:
Nodiadau Canllaw Portffolio Tystiolaeth - sector a reolir Mawrth 2026.pdf