Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Addysg a Gwella iechyd Cymru (AgGIC).
Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW). Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Nid oes gan rai botymau, delweddau a dolenni ddisgrifiadau hygyrch
Nid oes gan rai elfennau gwefan gyferbyniad lliw digonol
Nid oes gan rai delweddau cysylltiedig ddangosydd ffocws bysellfwrdd digon gweladwy
Nid yw rhai tudalennau'n gwbl ddefnyddiadwy gyda bysellfwrd
Mae gan rai ffurflenni negeseuon gwall neu labeli nad ydynt yn glir
Ni allwch addasu uchder llinell na bylchu testun
Nid oes capsiynau ar ffrydiau fideo byw
Os oes angen gwybodaeth arnoch o'r wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille:
E-bost: heiw.people@wales.nhs.uk
Ffôn: 03300 585 005
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb i chi o fewn uchafswm o 30 diwrnod gwaith.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych o'r farn nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: heiw.digital@wales.nhs.uk.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) y'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Rydym yn ymchwilio i'r opsiwn o ddarparu gwasanaeth trosglwyddo testun i bobl sy'n Fyddar/byddar, â nam ar eu clyw neu sydd ag anhawster lleferydd.
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain sefydlu (audio induction loops), neu os cysylltwch â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Darganfyddwch sut i cysylltwch â ni..
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r wefan hon yn rhannol gydymffurfiol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.2 lefel AA. Rhestrir yr "achosion o ddiffyg cydymffurfio ac eithriadau" isod.
Mae'r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
Er ein bod yn ymdrechu i gyrraedd WCAG 2.2 lefel AA, mae gennym ar hyn o bryd y materion diffyg cydymffurfio canlynol:
• Defnydd anghywir o briodoleddau dewislen - dewislen ARIA wedi torri - Cyfeirnod WCAG: Maen Prawf Llwyddiant 4.1.1 Dadansoddi (Lefel A)
• Botymau wedi'u lapio o fewn dolenni - Cyfeirnod WCAG: Maen Prawf Llwyddiant 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A)
• Defnydd anghywir o briodoleddau ARIA - Cyfeirnod WCAG: Maen Prawf Llwyddiant 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A)
• Gwybodaeth a Pherthnasoedd ar y Ddewislen Eilaidd - Cyfeirnod(au) WCAG: Maen Prawf Llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A)
• Elfen ddewis heb label - Cyfeirnod(au) WCAG: Maen Prawf Llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A)
• Ymarferoldeb dolenni ar yr un dudalen yn aneglur - Cyfeirnod WCAG: Maen Prawf Llwyddiant 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A)
• Elfennau personol mewn Cwestiynau Cyffredin ddim ar gael i bawb - Cyfeirnod(au) WCAG: Maen Prawf Llwyddiant 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A)
• Trefn ffocws afresymegol wrth edrych ar chwyddhad 200% (iOS) - Cyfeirnod WCAG: Maen Prawf Llwyddiant 2.4.3 Trefn Ffocws (Lefel A)
• Enw, Rôl, Gwerth (iOS) - Cyfeirnod WCAG: Maen Prawf Llwyddiant 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A)
• Labelu annisgrifiadol (Rhestr Tablau) - Cyfeirnod WCAG: Maen Prawf Llwyddiant 2.4.6 Penawdau a Labeli (Lefel AA)
• Ail-lifo (Reflow) - Cyfeirnod WCAG: Maen Prawf Llwyddiant 1.4.10 Ail-lifo (Lefel AA)
• Nid yw cyflwr estynedig yn cael ei gyhoeddi i ddarllenydd sgrin - Cyfeirnod WCAG: Maen Prawf Llwyddiant 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A)
• Ffocws bysellfwrdd gweladwy ar ddelweddau cysylltiedig - Cyfeirnod WCAG: Maen Prawf Llwyddiant 2.4.7
Ein nod yw cywiro'r diffygion hyn erbyn 31 Ionawr 2027.
Rydym wedi paratoi asesiad baich anghymesur i egluro pam mae gennym PDFs wedi'u cyhoeddi ar ein gwefan nad ydynt yn gwbl hygyrch, a sut rydym yn bwriadu gwneud gwelliannau.
Mae'r PDFs hyn yn bennaf yn rhai technegol neu gorfforaethol, gan gynnwys:
• Papurau bwrdd neu bwyllgor
• Adroddiadau perfformiad a all gynnwys data adrodd/ystadegol cymhleth
• Polisïau a gweithdrefnau a gynhyrchwyd ers mis Medi 2018
• Cyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â'n tudalennau Rhyddid Gwybodaeth, gan gynnwys cofnodion datgelu
• Cyhoeddiadau a allai fod wedi'u cynhyrchu'n broffesiynol ers mis Medi 2018 ac y byddai angen trydydd parti i'w cywiro
PDFs a dogfennau eraill
Mae rhai o'n PDFs a'n dogfennau Word yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym weithiau PDFs sy'n cynnwys gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael mynediad at ein gwasanaethau a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol inni gywiro PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu cywiro unrhyw PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghraifft papurau Byrddau a Phwyllgorau, dogfennau polisi a gweithdrefnau neu ddogfennau statudol fel Adroddiadau Blynyddol. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd.
Rydym yn cyhoeddi weithiau PDFs sy'n cynnwys "trawsgrifiadau/llawysgrifau wedi'u sganio neu nodiadau llawysgrifenedig", er enghraifft mewn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Mae'r rhain y tu allan i'r cwmpas ac ni chânt eu cywiro.
Fideo byw
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain na fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag gorfod bodloni'r rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn ceisio darparu fersiynau gydag isdeitlau o unrhyw fideos a gynhyrchir ymlaen llaw.
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Ein bwriad yw parhau i wella hygyrchedd drwy archwiliadau mewnol ac allanol rheolaidd.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ym mis Gorffennaf 2020 a chafodd ei adolygu ddiwethaf ym mis Hydref 2026. Caiff ei adolygu eto ym mis Hydref 2027.
Profwyd y wefan hon yn allanol ddiwethaf ym mis Tachwedd 2026. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (Digital Accessibility Centre).[C(2.1] Cynhaliodd AaGIC hefyd brofion mewnol gan ddefnyddio offer hygyrchedd WAVE, axe, SortSite a Lighthouse ym mis Hydref 2026.