Neidio i'r prif gynnwy

SOSET - Offeryn Hunanwerthuso Optimeiddio Sgiliau (Skills Optimiser Self-Evaluation Tool)

Good Clinical Practice logo

Mae’r Offeryn Hunanwerthuso Optimeiddio Sgiliau (SOSET) yn Offeryn datblygiadol, sy'n galluogi'r tîm practis deintyddol cyfan i ganolbwyntio ar sut y maent yn mynd i'r afael â’r dull 'cymysgedd o sgiliau'/gwaith tîm ar gyfer darparu gofal iechyd y geg yn effeithiol.

Fe'i defnyddir yn ystod sesiwn hwyluso gyda'ch Addysgwr Gwella Ansawdd lleol. Mae paratoi ar gyfer y SOSET a'i ddefnyddio yn golygu bod pob cyfranogwr yn gymwys ar gyfer dwy awr o DPP (CPD) gwiriadwy. Mae’r defnydd o SOSET yn cyd-fynd â’r pwyslais ar amrywiaeth o sgiliau gyda’r ffocws ar atal sy’n unol â Llywodraeth Cymru, y GIG a Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (GDS) a Diwygio Contractau a Gofal Iechyd Darbodus.

Am ragor o wybodaeth neu i ymholi ynghylch cofrestru ar gyfer SOSET, cysylltwch â QI Deintyddol AaGIC.

Dim ond yn Saesneg y mae'r fideo hwn, a grëwyd gan CUREMeDE, ar gael.