Cynllun Gwên yw Rhaglen Genedlaethol Llywodraeth Cymru i Wella Iechyd y Geg. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a’r Tîm Iechyd Deintyddol Cyhoeddus wedi datblygu modiwl e-ddysgu ar gyfer timau deintyddol yng Nghymru.
Mae’r cwrs yn tywys gweithwyr proffesiynol ym maes deintyddiaeth drwy brosiect gwella ansawdd ar-lein i wreiddio gofal ataliol seiliedig ar dystiolaeth a chyngor i blant rhwng 0 a 6 oed yn eu practis.
Mae’r Cynllun Gwên yn y ddeintyddfa yn cynnwys naw sesiwn. Mae’r sesiynau hyn yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys:
Mae Cynllun Gwên yn y ddeintyddfa yn addas ar gyfer holl aelodau’r tîm deintyddol sydd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (CDC). Hoffem yn arbennig annog gweithwyr proffesiynol ym maes gofal deintyddol (hylenwyr deintyddol, therapyddion deintyddol a nyrsys deintyddol) i ystyried cofrestru i gymryd rhan.
Ar hyn o bryd mae D2S yn cael diweddariadau angenrheidiol er mwyn i'r fenter QI hon gael ei hintegreiddio'n llwyddiannus i'n System Rheoli Dysgu newydd. Os ydych wedi cofrestru'n ddiweddar i ddechrau prosiect, yna byddwn mewn cysylltiad â chi i gadarnhau dyddiad cwblhau. Mae cymorth ar gael i chi gan eich Addysgwr Deintyddol QI pe bai angen hyn arnoch.
Ni fydd modd i ni dderbyn unrhyw gofrestriadau newydd ar gyfer prosiectau tan yn fuan yn 2024. Cyn gynted ag y bydd gennym ein platfform newydd i gefnogi D2S byddwn yn postio'r wybodaeth hon yma.
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â D2S AaGIC.