Mae timau deintyddol eisiau darparu gofal diogel o ansawdd uchel i’w cleifion. Fodd bynnag, gall cleifion ddioddef niwed o bryd i’w gilydd ym mhob math o ofal iechyd digwyddiadau diogelwch cleifion yw’r digwyddiadau hynny. Mae’r adran hon o’n gwefan yn rhoi gwybodaeth i dimau deintyddol am ddiogelwch cleifion, a gwerth adnabod digwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch cleifion a dysgu oddi wrthynt.
Gall digwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch cleifion arwain at niwed bychan, niwed difrifol, marwolaeth (ar achlysuron prin), neu, fel arall, damweiniau fu bron â digwydd lle cafodd digwyddiad ei osgoi. Gall y digwyddiad ddigwydd i gleifion, gofalwyr neu staff. Mae adnabod a dysgu o ddigwyddiadau neu ddamweiniau fu bron â digwydd yn helpu’r tîm i wneud y canlynol:
Nid yw digwyddiadau’n fel hyn yn fwriadol – maen nhw’n aml yn deillio o ffactorau dynol (fel blinder, straen, neu ymdopi â chleifion brys ychwanegol), problemau yn y system (fel systemau TG nad ydynt yn tynnu sylw clinigwyr at ba gyffuriau y gallai claf fod yn eu cymryd) neu natur gymhleth gofal iechyd cleifion unigol (e.e. camgymryd y dant y mae angen ei drin). Gallwch ddysgu mwy ar wefan y Improvement Accademy Gellir.
Mae angen rhoi gwybod am rai digwyddiadau y tu allan i’r practis – yn enwedig os yw’r claf neu’r aelod o staff wedi dod cael niwed. Cysylltwch ag ymgynghorydd practis deintyddol eich bwrdd iechyd a / neu eich addysgwr gwella ansawdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) cyn gynted â phosibl os yw claf, gofalwr neu aelod o staff wedi cael niwed. Bydd ef/hi yn gallu cynghori a chefnogi’r tîm, a’ch helpu i benderfynu beth ddigwyddodd a pham.
Anaml iawn y bydd achosion mewn gofal deintyddol yn arwain at farwolaeth, ond gallant arwain at ddifrod parhaol sy’n arwain at gwynion a straen i’r claf ac i’r tîm deintyddol. Dyma rai enghreifftiau o ddigwyddiadau mewn gofal deintyddol clinigol:
Mae rhannu’r hyn a ddysgwch o ddigwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch cleifion yn helpu i atal yr un peth rhag digwydd i glaf arall a’r tîm deintyddol. Gallwch ddysgu gan dimau eraill a rhannu eich profiadau’n ddienw.
Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ysgogi eich tîm yn y ddeintyddfa i wneud y canlynol:
Cysylltwch â’ch addysgwr deintyddol gwella ansawdd os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu gyngor.