Neidio i'r prif gynnwy

Cynllunio datblygiad personol

Bulbs with personal development stamped

Cyflwynodd y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (CDC) gynllun datblygiad proffesiynol parhaus newydd ar gyfer deintyddion ym mis Ionawr 2018 ac ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gofal deintyddol ym mis Awst 2018. Mae’r rhestr isod yn nodi’r prif newidiadau:

  • y gofyniad i bob gweithiwr deintyddol proffesiynol gael cynllun datblygu personol (gweler y ffeiliau isod i lwytho fersiwn y gellir ei argraffu o’r Portffolio cynllun datblygu personol neu i lawrlwytho fersiwn y gellir ei lenwi’n ddigidol)
  • cynnydd yn nifer yr oriau y gellir eu dilysu a’r gofyniad i wasgaru’r oriau’n fwy cyfartal ar draws y cylch pum mlynedd
  • nid oes rhaid i weithwyr deintyddol proffesiynol ddatgan DPP nad oes modd ei ddilysu i’r CDC mwyach, ac mae gostyngiad cyffredinol yn oriau DPP pob gweithiwr deintyddol proffesiynol
  • y gofyniad i wneud datganiad blynyddol o oriau DPP wedi’i gwblhau, hyd yn oed os oes dim oriau wedi’u cwblhau ar gyfer y flwyddyn honno
  • y gofyniad i gysoni gweithgareddau DPP â chanlyniadau datblygu penodol
  • y gofyniad i weithwyr proffesiynol gynllunio gweithgareddau DPP yn unol â’u “meysydd ymarfer” unigol.

Portffolio DPD

Sut gallwn ni helpu?

Ein rôl ni yw hwyluso a chefnogi dysgu ar gyfer yr holl dîm deintyddol fel yr argymhellir yng Nghanllawiau’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol o ran addysg barhaus. Gallwn lunio cynllun gweithredu effeithiol i’ch cyfeirio chi a’ch tîm at y llwybr dysgu mwyaf priodol a fydd yn addas i’ch anghenion personol a phroffesiynol. Oes gennych chi ddiddordeb? Cysylltwch â’r Swyddog Prosiect Gwella Ansawdd i drefnu dyddiad ar gyfer ymweliad addysgwr gwella ansawdd eich maes. Cysylltu: HEIW.DentalQI@wales.nhs.uk Ffôn: 03300 584 219