Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp adolygu cymheiriaid

Group of dentists reading files

Trosolwg o becyn cymorth grŵp cymheiriaid deintyddol

Cyflwyniad

Mae grwpiau cymheiriaid yn rhoi cyfle i grwpiau o ddeintyddion a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal deintyddol adolygu agweddau ar ymarfer.

Mae gweithgareddau adolygu cymheiriaid yn cael eu hystyried yn rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus gorfodol pob gweithiwr deintyddol proffesiynol. Mae’n ofynnol i bob gweithiwr deintyddol proffesiynol cofrestredig gwblhau DPP er mwyn cynnal eu cofrestriad. Mae’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (CDC) yn ei gwneud yn ofynnol i bob cofrestrai gadw cofnod ysgrifenedig o weithgarwch DPP, a dangos y cofnod hwn os gofynnir am hynny. Bydd defnyddio’r fframwaith adolygu cymheiriaid hwn yn darparu DPP gwiriadwy sy’n bodloni gofynion cynllun DPP y CDC yn achos y rheini sy’n ymgysylltu’n llawn ac yn cymryd rhan.

Nod adolygiad gan gymheiriaid yw rhannu profiadau a nodi meysydd lle gellir gwneud newidiadau gyda’r nod o wella ansawdd y gwasanaeth a gynigir i gleifion. Mater i weithwyr proffesiynol ym maes deintyddiaeth yw cymryd yr awenau wrth gysylltu â’u cyfoedion mewn deintyddfeydd eraill i ffurfio grŵp adolygu cymheiriaid. Dylai un gweithiwr deintyddol proffesiynol weithredu fel Trefnydd y grŵp.

Y canlyniad disgwyliedig i gyfarfodydd grŵp adolygu cymheiriaid yw gwelliant cynaliadwy mewn gofal a gwasanaeth deintyddol i gleifion.

Yn 2018, comisiynodd y CDC adolygiad o’r llenyddiaeth ar CPD.

Mae’r adroddiad yn crybwyll sawl cyfeiriad at fanteision dysgu drwy adolygu cymheiriaid. Crynhoir y prif bwyntiau yma;

  • Mae sawl math o ddysgu gan gymheiriaid gan gynnwys adolygu gan gymheiriaid, cymorth gan gymheiriaid, adborth gan gymheiriaid, arsylwi gan gymheiriaid, archwilio gan gymheiriaid, grwpiau trafod gan gymheiriaid, rhyngweithio â chyfoedion, mentora cyfoedion a hyfforddi a defnyddio hwyluswyr cymheiriaid
  • Mae dysgu gan gyfoedion yn hwyluso rhannu arferion gorau ac yn hyrwyddo safonau ymarfer uchel a all fod yn arbennig o werthfawr i ymarferwyr unigol. Nodwyd bod cydweithio a rhyngweithio yn fuddiol ac yn fwy tebygol o arwain at newidiadau cadarnhaol mewn ymarfer
  • Yn ogystal, mae’n cefnogi ymarfer adfyfyriol ac mae adnabod anghenion dysgu a’i werth o ran cefnogaeth fugeiliol hefyd yn cael ei gydnabod.
  • Gall dysgu gan gymheiriaid gefnogi rhyngweithio rhwng gweithwyr proffesiynol ar bob lefel o arbenigedd. Gall grwpiau adolygu gan gymheiriaid wella cyfathrebu, dysgu ac ymgysylltu rhwng gweithwyr proffesiynol a rhyngasiantaethol. Maent hefyd yn cryfhau perthnasoedd ac yn hybu cyd-ddealltwriaeth.

Manteision grwpiau cymheiriaid:

  • dull o rannu gwybodaeth rhwng cydweithwyr
  • ysgogiad ar gyfer dysgu unigol
  • arf i newid a gwella perfformiad
  • cyfrwng i gefnogi gweithwyr proffesiynol deintyddol sy’n tanberfformio
  • dull o gefnogi gweithgareddau ymarfer dyddiol
  • dull o gytuno ar safonau clinigol ar gyfer archwiliad clinigol
  • cyfrwng i wella cyfathrebu a meithrin cysylltiadau rhwng deintyddfeydd lleol.

I fanteisio i’r eithaf ar ddysgu gan gymheiriaid, dylai pob aelod wneud yr ymrwymiadau canlynol i’r grŵp cyfoedion:

  • bod yn barod i fod yn rhan o grŵp cymheiriaid
  • bod yn barod i fynychu pob cyfarfod neu gynifer ag y bo modd
  • bod yn barod i adolygu agweddau ar eu hymarfer eu hunain a rhannu'r wybodaeth honno
  • bod yn barodi roi newidiadau ar waith yn eu practis eu hunain er mwyn gwella ansawdd y gwasanaeth a gynigir i gleifion.

Templedi a awgrymir:

  1. Cofrestr bresenoldeb
  2. Agenda
  3. Cofnod cryno o’r cyfarfod
  4. Taflen werthuso ar gyfer cynrychiolwyr
  5. Log dysgu adfyfyriol

Bydd swyddog gwella ansawdd deintyddol Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn anfon templedi atoch ar gyfer yr uchod i gyd.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am sefydlu eich grŵp adolygu cymheiriaid, cysylltwch â’ch tiwtor gwella ansawdd lleol neu os oes gennych chi ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â HEIW.DentalQI@wales.nhs.uk.

Cyfeiriadau:

Cefndir, Egwyddorion a Chamau Adolygiad Cymheiriaid NES