Neidio i'r prif gynnwy

MMD Matrics Aeddfedrwydd Deintyddol

Adnodd datblygu ymarfer yw’r Matrics Aeddfedrwydd Deintyddol (MMD) er budd y tîm deintyddol cyfan, gan helpu timau deintyddol i ddarparu gofal o’r radd orau i gleifion.

Fe'i defnyddir yn ystod sesiynau wedi’u hwyluso dan ofal eich Addysgwyr Gwella Ansawdd Deintyddol lleol. Mae paratoi ar gyfer yr MMD a’i ddefnyddio’n gwarantu tair awr o DPP profadwy i bob cyfranogwr sy’n gofrestredig â’r GDC. Mae’r MMD yn helpu’r tîm deintyddol i ystyried y meysydd canlynol o ran arferion gorau a bodloni gofynion deddfwriaethol:

  1. Asesiad Clinigol a Rheoli Risg Clinigol
  2. Atal a Rheoli Heintiau (IPC)
  3. Safonau Radiolegol
  4. Cyfreithiol a Moesegol
  5. Profiad y Claf a Thrin Adborth
  6. Iechyd a Diogelwch
  7. Adrodd am Ddigwyddiadau Diogelwch
  8. Datblygu Tîm ac Ymarfer
  9. Archwilio a Gwella Ansawdd
  10. Defnyddio Adnoddau ar gyfer Ymarfer yn Seiliedig ar Dystiolaeth
  11. Lles Tîm
  12. Cyfarfodydd a Chyfathrebu Tîm

I gael rhagor o wybodaeth, gweler y Canllaw Matrics Aeddfedrwydd Deintyddol (MMD) ar gyfer Practisau Deintyddol.

Am ragor o wybodaeth neu i ymholi ynghylch cofrestru ar gyfer MMD, cysylltwch â Gwella Ansawdd Deintyddol AaGIC.