Er mwyn ymgymryd ag un o'r pedair rôl hyfforddi sy'n gofyn am gydnabyddiaeth gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC), dylai unigolion yng Nghymru gofrestru i Gytundeb Hyfforddwyr Meddygol (Gofal Eilaidd ac Addysg Is-raddedig).
Cyn cofrestru ar gyfer y cytundeb, dylai unigolion:
Unwaith bydd unigolyn wedi dod i’r casgliad ei fod yn gymwys, ac yn wir, angen dod yn hyfforddwr, dylent gofrestru i’r cytundeb hyfforddwyr meddygol (gofal eilaidd ac addysg is-raddedig).
TMae’r cytundeb ar gael ar system ar-lein Porth Cytundeb Hyfforddwyr (TAG) sydd hefyd â chofnod o'r holl hyfforddwyr cydnabyddedig yng Nghymru. Dylai unigolion gysylltu â’u canolfan addysg leol neu drefnydd addysg i ofyn am ddolen i’r system TAG a manylion am sut i gofrestru.
Unwaith y bydd unigolion wedi creu cyfrif yn TAG bydd angen iddyn nhw nodi eu gwybodaeth bersonol i greu cofnod hyfforddi a datgan pa rolau'r hyfforddi y maen nhw’n cofrestru ar eu cyfer. Yna cynhyrchir e-gytundeb o fewn y system y bydd gofyn iddyn nhw ei lofnodi. Bydd y cytundeb yn aros yn y system ond gellir ei lawrlwytho fel PDF os oes angen (e.e. i'w uwchlwytho i'r System Arfarnu ac Ailddilysu Meddygol (MARS) ar gyfer Arfarniad GIG). Dylai unigolion gymryd gofal i sicrhau cywirdeb wrth roi eu manylion ar y system TAG gan y bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhoi i'r GMC er mwyn argymell unigolion i'w cydnabod yn ffurfiol fel hyfforddwyr ac i'w statws fel hyfforddwyr gael ei adlewyrchu ar restr y GMC o ymarferwyr meddygol cofrestredig.