Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi'r gorau i rôl hyfforddwr

Team of doctors

Weithiau bydd achlysuron lle nad yw unigolyn yn dymuno, neu na all bellach, barhau yn ei rôl(au) fel hyfforddwr (e.e. ddim eisiau bod yn hyfforddwr mwyach, gadael Cymru, ymddeol etc).

Gall unigolion ddiwygio eu cofnodion hyfforddwr eu hunain ar system Porth Cytundeb Hyfforddwyr (TAG) i adlewyrchu'n gywir y rolau y maen nhw’n eu cyflawni, cyhyd â'u bod yn aros mewn o leiaf un o'r pedair rôl gydnabyddedig.

Pan fydd unigolion yn dymuno cael eu tynnu o bob rôl(au) hyfforddi, ac felly’n rhoi’r gorau i’w statws fel hyfforddwr, bydd angen i’w cofnod ar system TAG gael ei yn wneud yn anweithredol.

Dylai hyfforddwyr hysbysu’r trefnydd addysg neu eu canolfan addysg leol yn ysgrifenedig, ar y cyfle cyntaf, os oes angen i'w cofnod gael ei wneud yn anweithredol, gan nodi’r rheswm am adael rôl(au) hyfforddwr. Yna gweithredir y cais a bydd y trefnydd addysg yn hysbysu'r GMC y dylid tynnu statws hyfforddwr oddi ar gofnod yr unigolyn ar ei Restr o Ymarferwyr Meddygol Cofrestredig. Ni fydd unigolion yn cael eu cydnabod bellach fel hyfforddwyr gan y GMC ac ni allant weithredu yn unrhyw un o'r pedair rôl hyfforddi gydnabyddedig.