Neidio i'r prif gynnwy

Cyfleoedd datblygu proffesiynol

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad hyfforddwyr ledled GIG Cymru trwy ddarparu cyfleoedd datblygu sy'n ymwneud â'u rolau addysgol. Mae hefyd yn cyfeirio at gyfleoedd sy'n cael eu cynnig yn lleol, yn genedlaethol ac ar-lein i'w gwneud hi'n haws i hyfforddwyr prysur ddod o hyd i gyfleoedd a allai fod o ddefnydd iddyn nhw.

Gyrchwch adnoddau datblygu ar-lein AaGIC ar gyfer hyfforddwyr.

Mae Uned Cymorth Proffesiynol AaGIC hefyd yn darparu rhai gweithdai datblygu ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Efallai y bydd hyfforddwyr yn awyddus i gysylltu â’u Canolfan Addysg leol neu Gyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi a allai roi gwybodaeth bellach am gyfleoedd datblygu posibl.

Cymwysterau ffurfiol

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o raglenni addysg feddygol ôl-raddedig yn amrywio o radd meistr a diplomau ôl-raddedig mewn addysg feddygol i gyrsiau byrion a modiwlau unigol y gellir eu hastudio naill ai wyneb yn wyneb neu o bell.

Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn cynnig gradd meistr, diploma ôl-raddedig a thystysgrif ôl-raddedig mewn addysg feddygol.

Cyfleoedd dysgu ar-lein

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ‘ganllawiau ‘sut i…’ ar amrywiaeth o faterion mewn addysg feddygol. Mae’r canllawiau am ddim a'r bwriad yw darparu crynodeb cynhwysfawr o ystod o bynciau addysgol mewn fformat hygyrch ar gyfer clinigwyr prysur.

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn darparu amrywiaeth o weminarau ac adnoddau ar-lein a dolenni i gefnogi Athrawon ac Addysgwyr Clinigol yn eu datblygiad.

Mae Prifysgol East Anglia (UAE) yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau byrion ar-lein i Oruchwylwyr Clinigol sydd wedi’u datblygu gan grŵp amlddisgyblaethol o addysgwyr clinigol o Ysgol Feddygaeth Norwich. Mae mynediad sylfaenol i'r cyrsiau am ddim ac mae yna amryw o opsiynau i uwchraddio'ch mynediad am ffi. Y cyrsiau sy’n cael eu cynnig yw:

Darparwyr allanol DPP

Gall y sefydliadau canlynol hefyd ddarparu cyfleoedd datblygu proffesiynol ar gyfer hyfforddwyr: