Neidio i'r prif gynnwy

Rolau hyfforddwyr sydd angen cydnabyddiaeth

Man training a group of people

Mae’r pedair rôl hyfforddi ganlynol yn amodol ar drefniadau cydnabod hyfforddwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC):

Addysg is-raddedig

  • Rheini sy'n gyfrifol am oruchwylio cynnydd myfyrwyr ym mhob ysgol feddygol: Un neu fwy o feddygon a nodwyd gan ysgol feddygol sy'n gyfrifol am oruchwylio trywydd myfyrwyr o ran cynnydd dysgu ac addysg. Gallant fod yn feddygon ymgynghorol y GIG neu academyddion clinigol sy’n gweithredu fel cydlynwyr bloc neu gyrsiau.

  • Cydlynwyr arweiniol ym mhob darparwr addysg lleol: Un neu fwy o feddygon ym mhob Darparwr Addysg Lleol sy'n gyfrifol am gydlynu hyfforddiant myfyrwyr, goruchwylio eu gweithgareddau a sicrhau bod y gweithgareddau hyn o werth addysgol.

Hyfforddiant ôl-raddedig

  • Goruchwylwyr Addysgol Penodol: Hyfforddwr sydd wedi'i ddewis a'i hyfforddi'n briodol i fod yn gyfrifol am oruchwylio a rheoli trywydd hyfforddai o ran cynnydd dysgu yn ystod lleoliad neu gyfres o leoliadau. Rhaid i bob hyfforddai gael goruchwyliwr addysgol penodol. Mae'r goruchwyliwr addysgol yn helpu'r hyfforddai i gynllunio ei hyfforddiant ac i gyflawni canlyniadau dysgu y cytunwyd arnynt. Mae ef neu hi'n gyfrifol am y cytundeb addysgol ac am ddod â'r holl dystiolaeth berthnasol at ei gilydd i ddod i ddyfarniad crynodol ar ddiwedd y lleoliad neu'r gyfres o leoliadau.

  • Goruchwylwyr Clinigol Penodol: Hyfforddwr sy'n gyfrifol am oruchwylio gwaith clinigol hyfforddai penodedig drwy gydol lleoliad mewn amgylchedd clinigol neu feddygol ac sydd wedi’i hyfforddi'n briodol i wneud hynny. Bydd ef neu hi'n rhoi adborth adeiladol yn ystod y lleoliad hwnnw. Bydd ef neu hi'n arwain ar ddarparu adolygiad o ymarfer clinigol neu feddygol yr hyfforddai drwy gydol y lleoliad a fydd yn cyfrannu at adroddiad y goruchwyliwr addysgol ynghylch a ddylai'r hyfforddai symud ymlaen at gam nesaf yr hyfforddiant. Mae'r rôl hon wedi'i dadgyfuno â goruchwyliaeth glinigol, sy'n rhywbeth y mae pob meddyg yn ei wneud mewn ymarfer clinigol. Mae'r GMC yn nodi bod angen i'r cyfraniad hanfodol hwn gael “adnoddau priodol a'i gefnogi'n iawn” ond nid oes angen i'r GMC gydnabod y rôl hon yn ffurfiol.

Edrychwch i weld os ydych yn gymwys i ymgymryd â rôl hyfforddwr.