Ym mis Awst 2012, cyhoeddodd y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) ei gynlluniau i gydnabod hyfforddwyr meddygol mewn gofal eilaidd yn ffurfiol (ac mewn gofal sylfaenol i’r rheini sydd heb eu cymeradwyo fel hyfforddwyr Meddygon Teulu).
Mae’r broses Cydnabod Hyfforddwyr yn elfen allweddol o fframwaith rheoleiddio’r GMC. Mae wedi’i gynllunio i roi sicrwydd i gleifion, ac eraill, fod addysg a hyfforddiant meddygol yn cynhyrchu meddygon sydd â’r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiad priodol i'w galluogi i gynnig gwasanaeth o ansawdd uchel a sicrhau diogelwch cleifion.
I gael eu cydnabod yn ffurfiol gan y GMC a chael eu statws fel hyfforddwyr ar y Rhestr o Ymarferwyr Meddygol Cofrestredig, mae angen nodi hyfforddwyr yn ffurfiol a bodloni’r gofynion a nodir gan y Trefnydd Addysg (yng Nghymru, AaGIC yw’r Trefnwyr Addysg ar gyfer hyfforddwyr gofal eilaidd ôl-raddedig ac Ysgolion Meddygol Prifysgol Caerdydd ac Abertawe i hyfforddwyr meddygol is-raddedig). Yna mae’r Trefnydd Addysg yn argymell yr hyfforddwr am gydnabyddiaeth ffurfiol y GMC.
Ceir pedair rôl hyfforddi sydd angen cydnabyddiaeth y GMC.