Bydd pob hyfforddwr yn un o'r pedair rôl hyfforddi gydnabyddedig yn derbyn arfarniad blynyddol neu Adolygiad Datblygu Perfformiad (os yw'n berthnasol) yn ymwneud â'u rôl(au) fel hyfforddwr. I glinigwyr, bydd rôl yr hyfforddwr yn cael ei arfarnu fel rhan o arfarniad practis cyfan y GIG.
Mae’n ofynnol i hyfforddwyr ddarparu tystiolaeth i ddangos eu bod yn bodloni gofynion y rôl, gan gynnwys ymgymryd â Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) perthnasol yn gyson. Gall tystiolaeth fod ar sawl ffurf gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, dystysgrifau presenoldeb mewn digwyddiadau DPP, myfyrdodau ar weithgaredd a wnaed ac adborth a dderbyniwyd wrth gydweithwyr/hyfforddeion.
Dylid cofnodi neu lanlwytho tystiolaeth i lywio arfarniad practis cyfan y GIG i'r System Gwerthuso ac Ailddilysu Meddygol (MARS). Mae MARS yn caniatáu i hyfforddwyr ddewis pa un o'r pedair rôl(au) hyfforddi cydnabyddedig y maen nhw’n eu cyflawni fel y gellir trafod rôl(au) hyfforddwr fel rhan o'r arfarniad.
Am wybodaeth bellach ynglŷn â MARS, cysylltwch ag uned Cymorth Ailddilysu AaGIC neu ewch i wefan MARS.