Neidio i'r prif gynnwy

Cymhwystra i ddod yn hyfforddwr

Doctors consulting a patient

Dylai unigolion sy'n dymuno ymgymryd ag un neu fwy o'r pedair rôl hyfforddi gydnabyddedig fod yn feddygon sydd wedi mynegi diddordeb clir mewn hyfforddi, asesu a datblygu myfyrwyr meddygol is-raddedig a/neu hyfforddeion meddygol ôl-raddedig.

Mae’n rhaid i unigolion fod yn barod i ymrwymo i gael eu hadnabod fel hyfforddwyr, cyflawni eu cyfrifoldebau fel hyfforddwyr o dan y cytundeb hwn a gwneud eu hunain yn broffesiynol yn rôl yr hyfforddwr drwy ymrwymo i ymgymryd â datblygiad proffesiynol perthnasol ac ymgysylltu ag arfarnu rôl yr hyfforddwr.

Er mwyn cyflawni cyfrifoldebau rôl hyfforddwr, dylai fod gan unigolion hefyd wybodaeth a dealltwriaeth gadarn o egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth a gweithredu’n unol â hynny wrth gyflawni eu cyfrifoldebau fel hyfforddwyr.

Mae rolau hyfforddwyr israddedig a nodwyd gan y trefnwyr addysg fel rhai sy'n mapio i ddiffiniadau'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) fel arfer yn benodiadau ffurfiol gyda manylebau person a gofynion cysylltiedig, ac mae'r rhain yn cael eu hasesu yn ystod y broses recriwtio berthnasol.

Mae’r tabl isod yn dangos pwy sy’n gymwys i ymgymryd â’r pedair rôl hyfforddi yng Nghymru :

Cymhwystra rôl hyfforddi
  Addysg is-raddedig Addysg ôl-raddedig
Yn gyfrifol am oruchwylio cynnydd myfyrwyr Prif gydlynydd Goruchwyliwr addysgol Goruchwyliwr clinigol a enwir
Meddyg Ymgynghorol Parhaol cymwys cymwys ar gyfer hyfforddeion Sylfaen, Craidd ac Uwch ar gyfer hyfforddeion Sylfaen, Craidd ac Uwch
Ymgynghorydd Meddygol Locwm ddim yn gymwys ddim yn gymwys ddim yn gymwys ddim yn gymwys
Meddyg Teulu cymwys cymwys ddim yn gymwys ddim yn gymwys
Meddyg Teulu Locwm ddim yn gymwys ddim yn gymwys ddim yn gymwys ddim yn gymwys
Graddfa staff, arbenigwr Cyswllt neu feddyg arbenigol (SAS) gyda Thystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT) cymwys cymwys ar gyfer hyfforddeion Sylfaen, Craidd ac Uwch ar gyfer hyfforddeion Sylfaen, Craidd ac Uwch
Meddyg SAS heb CCT cymwys ddim yn gymwys ar gyfer hyfforddeion sylfaen a chraidd yn unig ar gyfer hyfforddeion sylfaen a chraidd yn unig

Mae canllawiau’r GMC ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn glir na fydd ymgynghorwyr meddygol locwm fel arfer yn gymwys i ymgymryd â rolau goruchwyliwr addysgol na’r goruchwyliwr clinigol penodol. Y rheswm am hynny, yn gyffredinol, yw bod swyddi locwm yn fyr, felly ni fyddai unigolion yn gallu cynnig parhad yn y gefnogaeth a’r oruchwyliaeth i hyfforddeion.

Serch hynny, mae'n bosib gwneud eithriadau, yn dibynnu ar amgylchiadau unigol (e.e. os yw unigolyn wedi bod ac yn disgwyl bod mewn swydd locwm am gyfnod hirach o amser). Am wybodaeth bellach ynglŷn â phroses eithriadau locwm, e-bostiwch Uned Ansawdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Parhewch am wybodaeth ynglŷn â sut i ddod yn hyfforddwr yng Nghymru.