Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant deintyddol craidd

Abstraction of a clock

Mae Hyfforddiant Deintyddol Craidd yn cynnig cyfle i ehangu gwybodaeth a phrofiad o fewn y proffesiwn deintyddol ac mae’n llwybr gyrfa cydnabyddedig ar ôl cwblhau Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol (DFT).

Mae gan Gymru bedwar Cynllun Hyfforddiant Deintyddol Craidd Blwyddyn 1 (DCT1) sy’n dechrau ym Mis Medi pob blwyddyn. Maent wedi eu lleoli yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Abertawe a Gogledd Cymru. Mae yno elfen addysgol 28 diwrnod (diwrnodau astudio) yn trafod ymarfer mewn Ysbyty ac yn y gymuned. Mae yno 2 ddiwrnod (1 diwrnod bob 6 mis) wedi ei neilltuo ar gyfer astudio unigol.

Prif amcanion y cynlluniau DCT1 yw gadael cyfranogwyr ehangu eu dealltwriaeth o ryngberthynas rhwng canghennau o’r proffesiwn, yn galluogi dewisiadau gyrfa wybodus i ddatblygu eu harbenigedd a sgiliau deintyddol ymhellach, yn adeiladu ar hyfforddiant blaenorol sydd wedi ei ennill fel israddedigion ac ymarferwyr deintyddol sylfaenol.

Rydym hefyd yn cynnig nifer o swyddi Hyfforddiant Deintyddol Craidd ar gyfer blynyddoedd 2 a 3 (DCT2/3) unwaith bod DCT1 wedi ei gwblhau.

Efallai y bydd cyfle hefyd i gael rhagor o swyddi datblygu gyrfa a elwir yn swyddi Hyfforddiant Deintyddol Craidd 2/3 (DCT2 neu DCT3). Fel arfer, cyflawnir y swyddi hyn ar ôl cwblhau hyfforddiant DFT a DCT1.

Bydd agweddau addysgol yr apwyntiadau hyn yn cael eu rheoli gan eich goruchwyliwr addysgol, a fydd yn un o’r Ymgynghorwyr/arbenigwyr y byddwch yn gweithio â hwy. Bydd y goruchwyliwr addysgol yn cwrdd â chi’n fuan ar ôl derbyn eich apwyntiad newydd i drafod a chytuno ar eich anghenion a’ch amcanion a’r gefnogaeth sydd i’w rhoi i’w cyflawni. Bydd hyn yn cael ei nodi mewn cytundeb addysgol (dysgu), a rhoddir copi ohono i chi. Bydd y cytundeb hwn, a fydd yn cynnwys cynllun datblygu personol clir ar gyfer y flwyddyn i ddod, yn cael ei adolygu ar wahanol adegau drwy gydol cyfnod yr hyfforddiant. Bydd gofyn i chi lenwi cofnod llawn a chynhwysfawr o’ch cyflawniad yn ystod eich cyfnod o hyfforddiant, wedi’i mewn portffolio neilltuol. Yr e-Bortffolio a ddewiswyd ar gyfer 2018-19 yw TURAS.

Am fwy o wybodaeth am DCT yng Nghymru cysylltwch gyda Helen O'Hara Rheolwr Hyfforddiant Deintyddol Craidd.