Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Hyfforddiant Deintyddol Arbenigol wedi ehangu’n sylweddol ac mae Deoniaeth Ddeintyddol AaGIC ar gyfer Ôl-raddedigion yn falch o gefnogi amrywiaeth o raglenni hyfforddi sydd wedi’u cymeradwyo gan AaGIC ar draws 8 arbenigedd deintyddol gyda chyfanswm o 30 o hyfforddeion arbenigol ar hyn o bryd.
Mae’r rhain yn cynnwys:
Mae safon uchel ein rhaglenni Hyfforddiant Deintyddol Arbenigol yn deillio o ymroddiad ac ymrwymiad ein tîm o hyfforddwyr ac addysgwyr proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi’n dda ac sydd ag offer a chyfleusterau deintyddol o’r safon uchaf. Argymhellir i unrhyw un sy’n dymuno hyfforddi i fod yn arbenigwr deintyddol gwblhau o leiaf ddwy flynedd o hyfforddiant ar ôl graddio, gan gwmpasu profiad clinigol eang. Dylid treulio o leiaf blwyddyn mewn ysbyty neu yn y gymuned, a rhaid i bob swydd gael ei llenwi am o leiaf dri mis. Bydd union hyd yr hyfforddiant arbenigol yn dibynnu ar yr arbenigedd dan sylw. Rhaid i’r holl hyfforddeion arbenigol gofrestru â’r Ddeon Deintyddol Ôl-raddedig Cymru, sy’n gyfrifol am fonitro cynnydd yr hyfforddai ac ansawdd yr hyfforddiant a dderbynnir.
Yn ystod yr hyfforddiant, cyn dyfarnu Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant Arbenigedd (CCST), bydd yr hyfforddai’n cael ei ystyried yn Gofrestrydd Hyfforddiant Arbenigol. Mae cyfleoedd hyfforddi ôl-gymhwyso (FTTA gynt) hefyd ar gael mewn rhai meysydd arbenigol. Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant, bydd angen i’r hyfforddai lwyddo yn yr arholiadau perthnasol (yn dibynnu ar yr arbenigedd) a bydd yn gymwys i gael ei argymell, gan Ddeon y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC), ar gyfer dyfarnu CCST a ddylai, yn ei dro, arwain at roi ei enw ar restr arbenigol berthnasol y CDC.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ymgymryd â rhaglen hyfforddiant arbenigol yng Nghymru, cysylltwch â:
Y Deon Cysylltiol ar gyfer Hyfforddiant Deintyddol Craidd & Arbenigol - Will McLaughlin
Rheolwr Hyfforddiant Arbenigol Deintyddol - Fran Yuen-Lee
I gael rhagor o wybodaeth i drefnu ymweliad neu sgwrs anffurfiol.