Therapyddion deintyddol cymwys - i ymuno â’n rhaglen sy’n dechrau ym mis Medi 2023, cysylltwch â Kath Liddington i gael ffurflen gais a rhagor o wybodaeth bydd y. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 31 Mai 2023
Mae’r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad strwythuredig i weithio ym maes deintyddiaeth gyffredinol ar gyfer therapyddion deintyddol. Dyma ddwy brif elfen y rhaglen (a) gweithio mewn amgylchedd gwarchodedig mewn practis cymeradwy, sydd wedi cael ei ddewis i ddarparu hyfforddiant a mentora a (b) cdefnogaeth drwy raglen o ddiwrnodau astudio, darlithoedd a chynadleddau a drefnir gan Adran Ddeintyddol i Ôl-raddedigion AaGIC a sesiynau tiwtorial/adborth unwaith y mis gyda goruchwyliwr addysgol yr ysgol. Mae’r swyddi yn y practis am ddau ddiwrnod yr wythnos, felly gellir eu cyfuno â swyddi wedi’u rhannu mewn practisau eraill neu’n llawn amser os oes gan y practis hyfforddi y capasiti. Cofiwch, fodd bynnag, fod yn rhaid i therapyddion ymrwymo i’r 12 diwrnod astudio gorfodol os ydynt yn gweithio mewn swydd wedi ei rhannu.
Mae’r cynllun yn rhedeg o fewn rhaglen dreigl, gyda derbyniadau ym mis Medi, am gyfnod o 52 wythnos. Gwahoddir ceisiadau gan ymarferwyr deintyddol cyffredinol yng Nghymru, sydd ag o leiaf bedair blynedd o brofiad, i ddod yn oruchwylydd addysgol ar raglen hyfforddi sylfaen therapyddion deintyddol Cymru.
Ydych chi am ymuno â’n “cronfa” o bractisiau deintyddol? I gael rhagor o wybodaeth am hyn ac unrhyw agwedd arall ar y rhaglen, cysylltwch â Kath Liddington, Swyddog WDTFT Cymru, ffôn 01443 824274.