Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau iechyd a lles y DU

Our frontline

Our Frontline

Mae ‘Our Frontline’ yn wasanaeth cymorth a ddatblygwyd gan GIG Lloegr. Mae'n cynnig cymorth rownd y cloc, un-i-un, drwy alwad neu neges destun, gan wirfoddolwyr hyfforddedig, ynghyd ag adnoddau, awgrymiadau a syniadau i ofalu am eich iechyd meddwl.

Wefan 'Our Frontline'

Mae hon yn ffynhonnell gyffredinol ddefnyddiol, ond os oes angen cymorth lleol arnoch, ymwelwch â'ch Bwrdd Iechyd lleol - mae manylion ar gael ar wefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

NHS people

Our NHS People

Mae ‘Our NHS People’ yn cefnogi staff y GIG i reoli eu hiechyd a’u lles eu hunain wrth ofalu am eraill.

Wefan 'Our NHS People'.

Mae hon yn ffynhonnell gyffredinol ddefnyddiol, ond os oes angen cymorth lleol arnoch, ymwelwch â'ch Bwrdd Iechyd lleol - mae manylion ar gael ar wefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Minded

MindEd

Mae MindEd wedi dewis y cyngor a’r awgrymiadau gorau gan banel mawr o arbenigwyr rhyngwladol. Mae’n adnodd ar gyfer holl staff rheng flaen, a gafodd ei greu gan NHS Health Education England mewn partneriaeth â NHS England-Improvement, gyda chefnogaeth gan Sgiliau Gofal.

National wellbeing hub

Hwb Lles Cenedlaethol

Mae’r adnodd hwn, a ddatblygwyd gan Lywodraeth yr Alban, yn seiliedig ar egwyddorion cymorth cyntaf seicolegol. Mae hyn yn golygu eu bod yn darparu cyngor a chymorth ar gyfer eich anghenion ymarferol bob dydd a’ch perthnasoedd, yn ogystal ag awgrymiadau ar hunanofal, i’ch helpu chi i ymdopi â’r heriau rydych chi’n eu hwynebu yn ystod y pandemig.

NHS Scotland

GIG yr Alban

Cliciwch ar y ddolen isod i gael trosolwg o rai o’r adnoddau sydd ar gael i gefnogi llesiant sydd wedi’u hanelu at staff iechyd a gofal cymdeithasol:

GIG yr Alban-Llesiant gweithwyr yn ystod ac ar ôl y pandemig