Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw ar gyfer sgyrsiau llesiant

 

Beth yw’r canllaw newydd ynglŷn â sgyrsiau llesiant GIG Cymru a Gofal Cymdeithasol?

Mae’r Canllaw sgyrsiau llesiant yn adnodd ar-lein ar gyfer gweithlu y GIG a Gofal Cymdeithasol. Mae’r canllaw wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth rhwng cyflogwyr y GIG, Gofal Cymdeithasol Cymru, partneriaid undebau llafur a Llywodraeth Cymru.

Mae’r canllaw wedi’i ddatblygu er mwyn cynorthwyo i gynnal sgyrsiau llesiant yn y gweithle, ac i adnabod anghenion cefnogi pan yn briodol. Er y gall yr adnodd hwn gynorthwyo i gefnogi iechyd meddwl da fel rhan o brofiadau gwell yn y gwaith, nid yw’r adnodd yn canolbwyntio ar y ffactor hwn yn benodol.

Mae’r canllaw ar-lein yn gyfres lled-strwythuredig o gwestiynau ynglŷn â phrofiadau yn y gwaith, a gellir ei ddefnyddio yn hyblyg yn ôl y sefyllfa.

 

Pryd fydd canllaw sgyrsiau llesiant GIG Cymru a gofal cymdeithasol ar gael, a phwy all ei ddefnyddio?

Mae’r Canllaw Sgyrsiau Llesiant ar gael ar y Cofnod Staff Electronig (ESR) ar gyfer staff GIG Cymru neu ar Learning@Wales ar gyfer staff Gofal Cymdeithasol o 24 Tachwedd 2021.

 

Pwy ddylai ddefnyddio’r Canllaw sgyrsiau llesiant?

Gall pawb ddefnyddio’r Canllaw sgyrsiau llesiant. Efallai y bydd rheolwyr yn penderfynu ei ddefnyddio i gael sgyrsiau gyda’u haelodau staff, neu gall aelodau staff unigol ei ddefnyddio i feddwl am eu hanghenion llesiant eu hunain. Efallai y bydd rhai grwpiau staff yn penderfynu ei ddefnyddio i gynnal sgyrsiau ar y cyd.

 

Beth yw sgwrs llesiant?

Rydym yn gwybod bod gwaith yn gallu cael effaith bwysig a chadarnhaol ar ein llesiant, yn ogystal â rhoi strwythur i ni, gwneud i ni deimlo’n rhan o rywbeth, a rhoi ymdeimlad o bwrpas, hunaniaeth a chyflawniad i ni. Fodd bynnag, gall gwaith gael effaith negyddol ar ein llesiant heb fod mor amlwg â hynny. Mae rhai adnoddau sy’n canolbwyntio ar y ffactorau seicolegol a chymdeithasol ar gyfer llesiant yn y gwaith. Bwriedir i’r canllaw hwn gael ei ddefnyddio fel man cychwyn i drafod y ffactorau llesiant hynny gan arwain at sgyrsiau sydd wedi eu cynllunio, camau gweithredu neu gyfeirio at adnoddau defnyddiol.

 

Pam ddylwn i gael sgwrs llesiant?

Ceir tystiolaeth sy’n dangos pwysigrwydd siarad yn rhagweithiol, yn agored ac yn onest gyda’n gilydd ynglŷn â’n hanghenion llesiant unigol ein hunain, a’n gilydd. Gall hyn fod yn fath gwahanol o sgwrs, ac mae’n bosibl na fyddai modd datrys popeth sy’n cael ei godi yn syth. Fodd bynnag, gall cymryd yr amser i gael sgwrs ystyrlon gydnabod materion pwysig o leiaf, a chychwyn y broses o ddod o hyd i ddatrysiadau.

 

Beth sy’n digwydd ar ôl defnyddio’r Canllaw?

Rydych chi’n cael eich annog i gytuno ar gyfres o gamau gweithredu gyda’r person neu’r grŵp yr ydych chi’n cael y sgwrs â nhw. Gofynnir ichi gwblhau ffurflenni gwerthuso byr a fydd o gymorth i barhau i ddatblygu’r canllaw hwn.

 

Cyrchu’r hyfforddiant drwy wefan DysguCymru - Learning@Wales

Dyma'r URL https://learning.wales.nhs.uk/course/

Ar ôl mewngofnodi, dewiswch naill ai'r fersiwn Cymraeg neu Saesneg o'r canllaw ac ymlwybrwch drwy'r cynnwys.

Angen cymorth? Mae sgwrs fyw ar gael ar y llwyfan (ochr dde gwaelod y sgrin), neu ffoniwch y ddesg gymorth eDdysgu ar 01443 848636 neu e-bostiwch elearning@wales.nhs.uk.

 

Cyrchu’r hyfforddiant drwy Gofnod Staff Electronig (ESR)

Mae’n bosibl na fydd rhai o’r dogfennau o ffynonellau allanol ar gael yn Gymraeg.

1. Mewngofnodi i hunanwasanaeth gweithwyr

2. Dewiswch yr Hafan Dysgu

3. Ar y dudalen hon ewch i'r blwch testun gwag

4. Ar gyfer y fersiwn Saesneg chwiliwch gan ddefnyddio ‘well-being conversation guide’, yna ‘Go’

Ar gyfer y fersiwn Cymraeg chwiliwch gan ddefnyddio ‘Cyfieithu'r Adnodd Sgwrs am Lesiant’

5. Bydd teitl y canllaw yn cael ei arddangos, nawr cliciwch ‘cofrestru’

6. Bydd y Canllaw nawr yn cael ei restru, cliciwch y botwm chwarae ar yr ochr dde:

7. Ymlwybrwch drwy'r cynnwys ac ar ôl ei gwblhau bydd eich statws yn cael ei ddiweddaru:

Cliciwch ar y ddolen yma:

Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru: Canllaw ar gyfer sgyrsiau llesiant.