Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd meddwl

Silvercloud

SilverCloud

Mae SilverCloud yn gwrs ar-lein gydag offer i helpu gyda COVID-19, straen, cwsg a gwytnwch, wedi'i deilwra'n benodol i helpu staff y GIG yn y cyfnod heriol hwn.

Cofrestrwch drwy nodi gwefan Silvercloud a nodi cod mynediad CYMRU2020. Mae rhaglenni'n hunangymorth, yn gyfrinachol ac yn ddiogel.

Gwefan SilverCloud

BBC

BBC

Coronafirws: Sut i amddiffyn eich Iechyd meddwl

Mae coronafirws wedi plymio'r Byd i ansicrwydd a gall y newyddion cyson am y pandemig deimlo'n ddi-baid. Mae hyn i gyd yn effeithio ar iechyd meddwl pobl, yn enwedig y rhai sydd eisoes yn byw gyda chyflyrau fel pryder ac OCD.

Awgrymiadau ar sut i amddiffyn eich iechyd meddwl.

Mind

Mind

Y Coronafeiws a’ch lles

Efallai eich bod chi’n poeni am y coronafeirws a sut y gallai effeithio ar eich bywyd. Gall hyn gynnwys cael cais i aros gartref neu osgoi pobl eraill.

Efallai fod hyn yn teimlo’n anodd neu’n peri straen, ond mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud a allai helpu’ch lles.

Cliciwch y dolenni isod i gael gwybodaeth a allai eich helpu chi.

Mental Health at Work

Iechyd Meddwl yn y Gwaith

Y coronafeirws ac ynysu: cefnogaeth i chi’ch hun ac i’ch cydweithwyr

Mae’n deg dweud nad ydym wedi profi amser tebyg i hwn. Ar adeg pan mae pethau’n symud ac yn newid yn gyflym, rydym am sicrhau bod gennych chi  wybodaeth ddefnyddiol ac ymarferol pan fo angen.

 

Gweithio gartref yn dda yn ystod cyfnod o gwarantîn oherwydd y coronafeirws

Gall y syniad o weithio ar eu pen eu hunain ddychryn y rhai nad ydynt wedi gweithio gartref o’r blaen. Mae’r canllaw hwn gan Leapers yn edrych ar beth y gallwch chi ei wneud i gynllunio ar gyfer y posibilrwydd y bydd staff angen hunanynysu, yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer gweithwyr cartref.

Every Mind Matters

Every Mind Matters

Lles meddyliol wrth aros gartref

Wefan Every Mind Matters

Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys

Mae gwefan o’r enw 'Canolfan Cydlynu Iechyd Meddwl Genedlaethol GIG Cymru' wedi’i lansio drwy wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys gan yr Uned Comisiynu Gydweithredol Genedlaethol. Sefydlwyd y wefan er mwyn cynnig gwybodaeth benodol am iechyd meddwl yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Mindfulness association

Mindfulness Association

Mae ap Mindfulness Based Living  i’w gael am ddim o Google Play Store ar gyfer defnyddwyr Android ac o’r App Store ar gyfer y rhai sy’n defnyddio dyfeisiau IOS. Teipiwch y geiriau ‘Mindfulness Based Living’ a bydd dewis o arferion ar flaenau eich bysedd!

NHS Employers

Cyflogwyr y GIG

Mae’r adnodd hwn wedi’i drefnu’n adrannau thematig i gefnogi lles meddyliol, gwydnwch ac adferiadWaeth ydych chi’n chwilio am hunanofal, am wybod sut i gefnogi cydweithiwr neu am wybod mwy am y sefydliad, mae’r adnodd head first yn lle gwych i gychwyn.

Public Health England

Future Learn

Gallwch gael hyfforddiant cymorth cyntaf seicolegol a helpu pobl ag anghenion gwahanol i ymdopi ag effaith emosiynol COVID-19.

NHS Scotland

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

I gefnogi’r rhai sy’n cefnogi eraill, mae HSC NI, mewn cydweithrediad â’r Groes Goch a NHS Education Scotland wedi darparu canllawiau dros dro a modiwl E-ddysgu byr ar Gymorth Cyntaf Seicolegol. Mae’r adnoddau’n berthnasol iawn i unrhyw un sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli gyda chymunedau statudol, cymunedol neu wirfoddol lleol yn y cyfnod hwn.

Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl

Mae'r canllaw hwn wedi'i ysgrifennu ar gyfer unrhyw un sy'n cefnogi pobl a brofodd ddigwyddiadau trawmatig, ac mae wedi'i gynllunio i gyd-fynd â hyfforddiant a gynigir gan Fenter Gwella Ansawdd Straen Trawmatig Cymru Gyfan.

Adnodd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ynghylch cefnogi pobl sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig.

Y Fenter Ymwybyddiaeth Ofalgar

Canllawiau gan y Fenter Ymwybyddiaeth Ofalgar ar COVID-19 ac Ymwybyddiaeth Ofalgar: Adnoddau ar gyfer staff iechyd a gofal

Y Fenter Ymwybyddiaeth Ofalgar - COVID-19 ac Ymwybyddiaeth Ofalgar: Adnoddau ar gyfer staff iecyd a gofal