Neidio i'r prif gynnwy

Ddim yn teimlo'n ddiogel gartref?

Mae’r dudalen hon yn cynnwys dolenni i sefydliadau ac adnoddau sy’n cynnig cymorth i unrhyw un sydd ddim yn teimlo’n ddiogel gartref.

Os ydych mewn perygl, ffoniwch 999.

Hourglass

Hourglass

Hourglass yw’r unig elusen sy’n gweithio’n benodol i roi diwedd ar y niwed, y cam-drin a’r cam-fanteisio sy’n digwydd i bobl hŷn ledled y Deyrnas Unedig.

Karma Nirvana

Karma Nirvana

Mae Karma Nirvana yn elusen genedlaethol arobryn sy’n cefnogi dioddefwyr camdriniaeth ar sail anrhydedd a phriodas dan orfod. Nid yw troseddau anrhydedd yn dibynnu ar oedran, ffydd, rhywedd na rhywioldeb. Rydym yn cefnogi a gweithio gyda phob dioddefwr.

bawso

Bawso

Mae Bawso yn sefydliad Cymru gyfan sy’n darparu gwasanaethau arbenigol yn cynnwys llety dros dro i’r rhai sydd wedi’u heffeithio neu mewn perygl o gam-drin domestig a phob math o drais fel Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, Priodas dan Orfod, Trais ar sail Anrhydedd, masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern.

Live fear free

Byw Heb Ofn

Gall Byw heb Ofn ddarparu cymorth a chyngor i:

  • unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig
  • unrhyw un sy’n nabod rhywun sydd angen cymorth. Er enghraifft, ffrind, aelod o’r teulu neu gydweithiwr
  • ymarferwyr sydd am gael cyngor proffesiynol.

Mae pob sgwrs gyda Byw heb Ofn yn gyfrinachol ac yn cael eu cynnal gan staff profiadol iawn sydd wedi’u hyfforddi’n llawn.

Modern slavery helpline

Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern

Mae’r llinell gymorth ar gaethwasiaeth fodern, Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern , yn rhif ffôn unigryw ar gyfer unrhyw beth o ymholiadau cyffredinol i adrodd am achosion gwirioneddol neu dybiedig.

Rape Crisis

Argyfwng Trais Cymru a Lloegr

Argyfwng Trais  Lloegr a Chymru yw’r corff ambarél ar gyfer rhwydwaith o Ganolfannau Argyfwng Trais annibynnol. Mae’r holl Ganolfannau sy’n aelodau’n darparu cymorth a gwasanaethau arbenigol i ddioddefwyr a goroeswyr trais rhywiol. 

Refuge

Refuge

Mae Refuge yn cefnogi menywod a phlant sy’n profi pob math o drais a chamdriniaeth, yn cynnwys trais domestig, trais rhywiol, anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod, trais ar sail anrhydedd, masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern.

Respect

Respect

Mae Respect yn sefydliad cam-drin domestig blaenllaw yn y DU sy’n arwain y broses o ddatblygu gwaith diogel ac effeithiol gyda chyflawnwyr, dynion sy’n dioddef a phobl ifanc sy’n defnyddio trais yn eu perthnasoedd agos. 

Samariaid

Mae’r Samariaid yn cynnig cyngor ar beth i’w wneud os ydych yn poeni am rywun arall.

Welsh women

Cymorth i Ferched Cymru

Cymorth i Ferched Cymru yw’r elusen genedlaethol yng Nghymru sy’n gweithio i roi diwedd ar gam-drin domestig a phob math o drais yn erbyn merched.