Mae Gyrfaoedd GIG Cymru yma i'ch helpu i ddarganfod y cyfoeth o gyfleoedd gwaith sydd ar gael o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Gyda mwy na 350 o swyddi ar gael, mae GIG Cymru yn lle cyffrous i ddatblygu eich gyrfa, p'un a ydych chi'n 16 neu'n 60.
Rydym yn helpu i wella ac arbed bywydau ac ni allem wneud hynny heb ein pobl.
A dydyn ni ddim yn sôn am ein rolau clinigol yn unig - fel meddygon a nyrsys. Ni allai'r GIG oroesi heb ei drydanwyr, cyfrifwyr a gweithwyr cymorth gofal iechyd ychwaith-i enwi dim ond ychydig o'r nifer o rolau eraill sydd yma.
Mae arnom angen pobl sy'n dosturiol ac sydd am wneud gwahaniaeth. Mae pob un o'n pobl yn chwarae rhan hanfodol o ran cadw poblogaeth Cymru'n ffit ac yn iach.
Ddiddordeb? Gallwch fod yn sicr o ddewis eang o gyfleoedd gyrfaol, pob un ohonynt yn heriol ac yn werth chweil.
Ar y wefan hon, eglurwn yr ystod o rolau sydd ar gael o fewn y GIG, gan gynnwys y cymwysterau a'r profiad sydd eu hangen.
Mae ein tudalen Rolau yn manylu ar bopeth o feddygon a nyrsys i barafeddygon a phorthorion, gwyddonwyr gofal iechyd i ysgrifenyddion meddygol a mwy. Mae pob tudalen rôl yn disgrifio:
Ydych chi'n fyfyriwr? Efallai eich bod chi'n ystyried newid gyrfa? Efallai eich bod chi'n cefnogi rhywun i wneud penderfyniadau gyrfaol? Rydym wedi creu siop un stop o wybodaeth gyrfaoedd i'ch cefnogi ar bob cam o'ch taith gyrfa. Ewch i'r Adran Cyngor Gyrfaoedd Iechyd i gael gwybod mwy.
Os ydych chi'n barod i ymgeisio ac eisiau gweld y swyddi a'r prentisiaethau sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i'n tudalen Profiad a Swyddi lle byddwch chi'n dod o hyd i ddolen i safle recriwtio swyddi'r GIG ac awgrymiadau ar sut i chwilio am eich swydd ddelfrydol a gwneud cais llwyddiannus.
Mae'r GIG yng Nghymru yn darparu gwasanaethau drwy saith Bwrdd Iechyd Lleol a thair Ymddiriedolaeth GIG.
Mae'r saith Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) yng Nghymru yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau gofal iechyd yn eu hardal leol.
Mae tair Ymddiriedolaeth y GIG yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau gofal iechyd ar gyfer Cymru gyfan.
Mae Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau yn darparu'r gwasanaethau canlynol:
Mae gan y GIG yng Nghymru un awdurdod iechyd arbennig hefyd a nifer o sefydliadau cenedlaethol sy'n cefnogi ac yn galluogi gwaith y byrddau iechyd lleol a'r ymddiriedolaethau.
Mae gan y GIG yng Nghymru chwe egwyddor graidd sy'n llywio sut mae ein staff yn cydweithio i wneud yn siŵr bod yr hyn rydym yn ei wneud a sut yr ydym yn ei wneud yn cael ei ategu gan ymdeimlad o bwrpas cyffredin. Mae'r chwe egwyddor graidd yn atgyfnerthu gwerthoedd ac ymddygiadau pob un o sefydliadau'r GIG.
Gobeithiwn y byddwch yn dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein gwefan ond os nad ydych yn gallu, cysylltwch â ni!
Mae croeso i chi anfon e-bost atom. Ein nod yw ymateb cyn gynted â phosibl ac fel arfer gallwch ddisgwyl ateb o fewn pum diwrnod gwaith.
Gallwch hefyd ddilyn ein gwaith ar gyfryngau cymdeithasol - Rydym ar Twitter a Facebook.