Mae’r Diploma Mynediad at Addysg Uwch yn gymhwyster sy’n paratoi pobl, sydd heb gymwysterau traddodiadol, i astudio yn y brifysgol. Bydd myfyriwr sydd wedi cwblhau’r Diploma Mynediad at Addysg Uwch â sgiliau astudio o’r un safon â rhywun sydd newydd gwblhau Safonau Uwch, a bydd yn fwy na pharod i fynd i’r Brifysgol.
Mae cyrsiau mynediad yn cynnwys rhyw 16 awr o gyswllt bob wythnos fel arfer dros gyfnod o flwyddyn (Medi - Mehefin), heb gynnwys gwaith cartref. Dylech chi drefnu lle yn gynnar gan fod y cyrsiau yn boblogaidd iawn, ac maent fel arfer yn llawn cyn mis Medi.
Os na allwch chi astudio cwrs mynediad yn ystod y dydd oherwydd eich bod yn gweithio, mae astudio’n rhan-amser yn opsiwn.
Y llwybr mwyaf poblogaidd i gwrs gofal iechyd ymysg pobl sydd dros 21 oed yw cwrs mynediad iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae pob prifysgol yn gosod ei gofynion mynediad ei hun, felly mae’n werth gwirio’r wefan neu gysylltu â ‘r adran dderbyniadau / prif diwtor yn y brifysgol yr hoffech chi wneud cais iddi i ofyn pa gymwysterau y byddant yn eu derbyn.
Mae gofynion mynediad a phrosesau ymgeisio yn cael eu pennu gan golegau / darparwyr cwrs unigol ac felly gallant amrywio. Ewch i wefan Mynediad i Addysg Uwch am ragor o wybodaeth ac i weld lle mae’r cyrsiau’n cael eu cynnig.