Pam byddech chi eisiau gweithio yn GIG Cymru?
Dyma saith rheswm gwych:
- Mae’n yrfa werth chweil sydd â chyfleoedd gwych!
Mae dewis o dros 350 o rolau, felly gallwch dreulio’ch gyrfa gyfan yn GIG Cymru yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’ch cymuned leol.
- Byddwn yn buddsoddi ynoch chi
Rydym yn talu ffioedd nifer o raddau gofal iechyd ac mae bwrsariaethau ar gael hefyd.
- Does dim rhaid ichi fynd i’r brifysgol i weithio yn GIG Cymru.
Byddwn yn eich hyfforddi yn y swydd, felly gallwch chi ennill cyflog wrth ddysgu!
- Byddwn yn eich helpu i fwrw ymlaen yn eich gyrfa
Bydd yr adolygiad gwerthuso a datblygu perfformiad blynyddol yn cefnogi’ch dyheadau gyrfaol.
- Ydych chi am fwynhau’ch gwaith? Fe fyddwch chi!
Gan ein bod yn dod â phobl o’r un anian at ei gilydd, byddwch mewn cwmni da.
- Mwynhau cydbwysedd da rhwng gwaith a bywyd
Os nad oedd 28 diwrnod o wyliau a gwyliau banc yn ddigon, gallwch hefyd brynu gwyliau ychwanegol. Mae gennym hefyd amrywiaeth o batrymau gweithio hyblyg a gwelliannau ar gyfer gweithio ar benwythnosau.
- Mae barnau ein gweithwyr yn bwysig inni
Rydym yn ymgynghori â’n staff yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau trwy eu gwahodd i gwblhau arolygon staff.
Buddion
Mae llawer iawn o fuddion a dyma rai ohonyn nhw:
- Codiadau cyflog graddol
- Wythnos waith arferol o 37.5 awr
- Taliadau ychwanegol am sifftiau, goramser neu am weithio y tu allan i oriau
- 28 diwrnod (gwyliau) a gwyliau banc, gyda nifer y gwyliau a gewch chi yn cynyddu yn dibynnu ar hyd eich gwasanaeth
- Mae Cynllun Pensiwn y GIG yn un o’r cynlluniau mwyaf hael a chynhwysfawr yn y DU.
- Gwasanaethau cwnsela ac iechyd galwedigaethol
- Disgowntiau GIG
- Trefniadau gweithio hyblyg fel bod modd taro’r cydbwysedd iawn rhwng bywyd a gwaith
- Talebau Gofal Plant
Cyflog
Mae graddfeydd cyflog Agenda ar gyfer Newid GIG Cymru yn sicrhau cyflog teg i holl weithwyr y GIG. Mae swyddi'n cael eu categoreiddio mewn bandiau sydd â graddfeydd cyflog penodol wedi'u neilltuo. Bydd gweithwyr yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog ar gyfer eu band ac yn cynyddu i'r brig dros amser.
Mae manylion y graddfeydd cyflog penodol ar gyfer pob band ar gael.