Neidio i'r prif gynnwy

Profiad Gwaith

Yn yr adran hon, mae gwybodaeth am y gwerth sydd mewn profiad gwaith a gwaith gwirfoddol wrth ystyried rôl yn GIG Cymru. Maen nhw’n cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy gan ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth yr un pryd o’r gwahanol rolau yn y GIG.  

Mae’r dudalen hon yn disgrifio sut y gallwch ennill profiad, manteision ennill profiad, sut y gallwch wneud y gorau ohono a sut i ddod o hyd i gyfleoedd.

Ffyrdd o ennill profiad

Mae ennill profiad perthnasol yn un o’r pethau pwysicaf y gallwch ei wneud er mwyn cychwyn ar yrfa ym maes iechyd, felly achubwch ar bob cyfle.  Dyma restr o’r gwahanol ffyrdd o ennill profiad.

  • Lleoliadau profiad gwaith: gallai’r lleoliad bara am ddiwrnod neu ddau, neu am wythnos neu bythefnos, neu hyd yn oed am gwpl o oriau bob wythnos.
  • Gwaith rhan-amser neu lawn amser: gall unrhyw brofiad gwaith â chyflog yn y maes iawn fod yn werthfawr, yn enwedig os ydych chi wedi cael hyfforddiant. Caiff pob swydd yn GIG Cymru ei rhestru ar NHS Jobs. Ewch i’n hadran Swyddi i ddysgu mwy.
  • Gwirfoddoli: mae gwirfoddolwyr yn gweithio ochr yn ochr â staff ac yn cyflawni tasgau gwerth chweil. Ewch i’n tudalen Gwirfoddoli i gael gwybod mwy.
  • Gallwch chi ennill profiad trwy ofalu am ffrind neu berthynas sy’n anabl hefyd.

Po fwyaf o brofiad sydd gennych a pho fwyaf amrywiol y mae’r profiad hwnnw, y gorau oll. Gallwch chi wneud lleoliad ar y cyd â gwirfoddoli er enghraifft.

Profiad perthnasol

Yn ddelfrydol, dylech chi geisio ennill profiad gwaith yn y maes iechyd sydd o ddiddordeb ichi. Fodd bynnag, gall unrhyw brofiad ym maes gofal iechyd fod yn ddefnyddiol, gan y gallai treulio unrhyw gyfnod o amser mewn amgylchedd iechyd eich helpu i ddeall y gwaith.  Os ydych chi’n ystyried cwrs prifysgol, cofiwch wirio pa fath o brofiad sydd ei angen. Cysylltwch â’r brifysgol neu ewch i’w gwefan. Peidiwch â rhagdybio!

Mae miloedd o sefydliadau yn darparu rhyw fath o ofal iechyd. Gall eich rôl gynnwys cefnogi cleifion/cleientiaid yn uniongyrchol, neu staff yn gyffredinol, neu gall eich gwaith chi fod y tu ôl i’r llenni.  Efallai y byddwch yn ystyried ennill profiad mewn:

  • ysbytai preifat neu yn un o ysbytai, clinigau neu ganolfannau iechyd y GIG.
  • mewn elusen neu fenter gymdeithasol (fel un sy’n cefnogi pobl â chyflyrau iechyd hirdymor ac anableddau neu bobl hŷn, neu un sy’n darparu cymorth cyntaf fel Ambiwlans Sant Ioan neu’r Groes Goch.
  • cartref gofal preswyl neu ganolfan gofal dydd

Sut y bydd profiad o fudd i chi

Ni waeth sut y byddwch yn ennill profiad, mae nifer o fanteision. Dyma sut:

  • Byddwch yn ennill y profiad sydd ei angen arnoch i gael lle ar gyrsiau hyfforddiant ar gyfer rhai swyddi ym maes iechyd (ewch i’n hadran Rolau os oes gennych yrfa benodol mewn golwg, er mwyn cael gwybod pa fath o brofiad a fydd yn ddefnyddiol neu’n angenrheidiol
  • Bydd modd ichi ddysgu mwy am yrfa sydd o ddiddordeb ichi, a fydd yn eich helpu i benderfynu ai honno yw’r yrfa iawn ichi.
  • Cewch y cyfle i ddysgu sgiliau trosglwyddadwy, h.y. sgiliau sy’n ddefnyddiol mewn unrhyw swydd, fel cyfathrebu a gweithio mewn tîm.
  • Byddwch yn magu’ch hunanhyder ac empathi a pharch tuag at eraill.
  • Bydd gennych rywbeth i’w nodi ar eich ceisiadau, a rhywbeth i sôn amdano mewn cyfweliadau i ddangos eich ymrwymiad, cymhelliant a photensial.
  • Bydd yn gyfle ichi gael boddhad o wneud gwahaniaeth i gleifion/cleientaid a staff.

Wrth gwblhau profiad gwaith:

  • os nad ydych chi’n siŵr am rywbeth, gofynnwch
  • sicrhewch eich bod yn cyrraedd yn brydlon
  • sicrhewch eich bod yn lân ac yn drwsiadus
  • dilynwch weithdrefnau iechyd a diogelwch
  • cynigiwch help i bobl
  • holwch bobl am eu swyddi
  • gwnewch nodiadau fel bod modd ichi gofio beth rydych chi wedi ei wneud a’i ddysgu

Cofiwch y bydd staff yn brysur, felly byddwch yn ystyriol o hynny

Wrth gyflwyno’ch cais a mynd i gyfweliad am gyrsiau a/neu swyddi, gwnewch y mwyaf o unrhyw brofiad rydych chi wedi’i ennill. Esboniwch:

  • beth oedd eich rôl a’r mathau o dasgau y bu gofyn ichi eu cyflawni
  • beth ddysgoch chi o’r profiad
  • unrhyw sgiliau perthnasol a feithrinoch chi
  • sut y cafodd eich ymrwymiad i’ch dewis yrfa ei atgyfnerthu gan y profiad

Dod o hyd i'r cyfle

Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau sy’n trefnu lleoliadau profiad gwaith yn GIG Cymru. Dilynwch y dolenni canlynol i weld beth sydd ar gael yn eich ardal leol a sut i ymgeisio:

Rwy’n ei chael yn anodd dod o hyd i brofiad addas

Os na allwch chi ddod o hyd i gyfle i ennill profiad gwaith yn y GIG, dyma rai posibiliadau eraill:

  • Gofynnwch a oes gan eich ysgol neu goleg restr o gyflogwyr addas sydd wedi cymryd myfyrwyr profiad gwaith ymlaen yn y gorffennol.
  • Gofynnwch i’ch athrawon neu i staff arbenigol yn yr ysgol a ydynt yn ymwybodol o unrhyw gyfleoedd addas.
  • Cysylltwch â’r cyflogwyr addas eich hun.
  • Cysgodwch rywun sy’n gweithio ym maes iechyd. Byddai hyn yn rhoi’r cyfle ichi weld beth mae’n ei wneud bob dydd a gofyn cwestiynau.
  • Mynnwch sgwrs â rhywun sy’n gweithio ym maes iechyd. Paratowch gwestiynau ymlaen llaw er mwyn cael gwybod beth mae’n ei wneud, sut y dechreuodd a pha gymwysterau sydd eu hangen ayyb.
  • Chwiliwch am opsiynau eraill; oes angen profiad o weithio ym maes iechyd?