Bydd eich effeithiolrwydd yn eich gyrfa yn dibynnu ar eich addasrwydd chi fel person i’r rôl a’r amgylchedd gwaith. Mae hunanymwybyddiaeth a mewnwelediad personol yn allweddol wrth gynllunio a dewis gyrfa.
Bydd angen i’ch dewis o waith mewn meddygaeth fod yn addas ac yn gymesur â ffactorau eraill yn eich bywyd ac mae dyheadau unigolion o ran gyrfa yn amrywio hefyd.
Mae llu o gyfleoedd gyrfa i feddygon, yn cynnwys:
Gallwch lawrlwytho’r adnoddau canlynol i’ch helpu i ystyried beth rydych am ei gael yn eich gyrfa a’ch helpu i edrych ar opsiynau.
Mae polisi tîm Gyrfaoedd Meddygol a Sylfaen AaGIC ar flasu gyrfaoedd yn helpu hyfforddeion Sylfaen i ddeall y broses ar gyfer Cynllunio Blas ar Yrfa, yn cynnwys rhestr gyfredol o gyrsiau blas ar yrfa mewn Byrddau Iechyd. Gall meddygon sylfaen gysylltu ag adrannau’n uniongyrchol hefyd. Os yw meddyg sylfaen yn chwilio am yrfa ym maes Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Mae fideos a thaflenni ar arbenigeddau ar gael sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am yr arbenigeddau: