Rydym yn gwybod bod llawer o Feddygon bellach yn chwilio am yrfaoedd hyblyg yr un fath â llawer o broffesiynau eraill ac felly rydym wedi datblygu'r tudalennau gwe yma i'ch helpu i'ch cefnogi drwy eich nodau gyrfa tymor byr, canolig a hir.
Er mwyn rhoi gyrfaoedd meddygol yn eu cyd-destun a'ch helpu i ddeall y broses rydym wedi datblygu'r tudalennau gwe o amgylch y model gyrfaoedd canlynol:
Model "Roads to Success" (Elton, C. & Reid, J., 2009)
Meddygon prysur ydych chi, ac rydym yn sylweddoli nad oes gennych lawer o amser weithiau i ystyried eich opsiynau, yn aml mae angen gwneud penderfyniadau'n gyflym ac felly rydym wedi cynnwys rhai adnoddau defnyddiol iawn i gwmpasu pob ongl: i'r rhai sydd eisoes wedi Penderfynu ar eich llwybr gyrfa, y rhai sy'n Archwilio pob opsiwn neu Ailfeddwl am eich gyrfa.