Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant yn y swydd, gan gynnwys prentisiaethau

Hyfforddiant seiliedig ar waith a phrentisiaethau

Mae hyfforddiant seiliedig ar waith yn cynnig y cyfle i ennill arian wrth i chi ddysgu. Trwy hyfforddiant yn y swydd byddwch yn datblygu sgiliau newydd ac yn gweithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig wrth weithio.

Gellir manteisio ar nifer o gyfleoedd i ymgymryd â hyfforddiant seiliedig ar waith o fewn GIG Cymru drwy brentisiaethau, sy’n agored i weithwyr newydd a phresennol.

Beth yw prentisiaeth?

Mae prentisiaethau yn cyfuno gwaith, hyfforddiant yn y gwaith ac astudio rhan-amser - rydych chi'n datblygu sgiliau ymarferol ac yn ennill profiad, ochr yn ochr ag ennill cymhwyster cydnabyddedig sy'n berthnasol i'r rôl benodol.

Ar gyfer pwy mae prentisiaethau?

Pawb. P'un a ydych newydd ddechrau yn eich gyrfa, yn edrych i newid rolau neu i ddatblygu eich sgiliau, mae prentisiaeth at eich dant.

I wneud cais am brentisiaeth bydd angen i chi fod yn 16 oed o leiaf.

Ai prentisiaeth yw’r llwybr gyrfa gywir i mi?

Gyda hyfforddiant strwythuredig a rhaglen benodol o gymorth, ochr yn ochr â chael profiad ymarferol a gweithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, mae prentisiaethau’n cynnig llwybr i nifer o rolau gwahanol o fewn GIG Cymru.

Mae prentisiaethau yn eich galluogi i ddatblygu'r sgiliau, y profiad a'r cymwysterau i symud ymlaen yn eich gyrfa ddewisol

Pa fathau o brentisiaethau sydd yn GIG Cymru?

Mae pob bwrdd/ymddiriedolaeth iechyd o fewn GIG Cymru yn rheoli eu cynlluniau prentisiaeth eu hunain, ac felly gall y rolau sydd ar gael amrywio ledled Cymru – o weithio mewn lleoliadau clinigol i anghlinigol.

Gall y rhain amrywio o:

• rolau clinigol – o weithwyr cymorth gofal iechyd i dechnegwyr meddygol brys

• gwasanaethau corfforaethol – o wasanaethau cwsmeriaid i ddigidol a chyllid

• ystadau a chyfleusterau – o asiedydd adeiladu a gwaith coed.

Yn ogystal â’r gwahanol rolau, mae yna hefyd lefelau gwahanol o brentisiaethau o fewn GIG Cymru o brentisiaethau lefel sylfaen 2 yn codi i brentisiaethau gradd ar gyfer rolau penodol.

Gall cymryd rhwng un a saith mlynedd i gwblhau prentisiaethau.

Gweithio fel prentis

Mae’r rhan fwyaf o brentisiaid yn gweithio’n llawn amser, sef 37.5 awr yr wythnos fel arfer. Mae’r GIG yn wasanaeth saith diwrnod yr wythnos, 24 awr y dydd, felly mae’n bosibl y bydd yn rhaid ichi weithio yn ôl patrymau sifft penodol. Mae prentisiaid yn cael hawl i wyliau blynyddol a gwyliau banc a gallant hefyd elwa drwy gael gostyngiad mewn llawer o siopau a sefydliadau.

Sut mae gwneud cais am brentisiaeth yn GIG Cymru?

Mae pob prentisiaeth yn GIG Cymru yn cael ei hysbysebu ar wefan Swyddi GIG. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar wefan pob bwrdd iechyd/ymddiriedolaeth (gweler isod).

Ble mae rhagor o wybodaeth am brentisiaethau yn GIG Cymru?

Byrddau Iechyd GIG Cymru

•Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

• Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

• Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

• Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

• Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

• Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

• Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

 

Ymddiriedolaethau

• Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

• Academi Gyllid GIG Cymru

• Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

• Iechyd Cyhoeddus Cymru

• Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

• Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru