Mae GIG Cymru yn darparu mynediad am ddim i SilverCloud®, ystod o raglenni hunangymorth ar-lein dan arweiniad i helpu i reoli a gwella eich iechyd meddwl a lles.
Mae cefnogaeth ar gyfer symptomau ysgafn i gymedrol o bryder, iselder, straen, OCD, cwsg, alcohol, defnyddio cyffuriau, pryder iechyd, delwedd corff a mwy.
Gall unrhyw un 16+ oed gofrestru heb atgyfeiriad gan Feddyg Teulu. Dewiswch un rhaglen i'w chwblhau ar eich cyflymder eich hun dros 12 wythnos a chyrchwch hi unrhyw bryd, unrhyw le ar eich ffôn, tabled neu bwrdd gwaith. Nid oes rhestr aros, a bydd cefnogwr hyfforddedig yn cael ei neilltuo i chi a fydd yn rhoi adborth bob pythefnos.
Gall rhieni a gofalwyr hefyd gael mynediad at raglenni i helpu i gefnogi plentyn neu berson ifanc i ddelio â phryder neu hwyliau isel.
Mae'r rhaglenni ar gael drwy'r GIG ym mhob rhan o Gymru. Sylwch nad yw hwn yn wasanaeth argyfwng - byddwch yn cael eich cyfeirio at gymorth mwy priodol os nad yw SilverCloud yn diwallu
eich anghenion.
Cofrestrwch yma: Gwefan SilverCloud
Coronafirws: Sut i amddiffyn eich Iechyd meddwl
Mae coronafirws wedi plymio'r Byd i ansicrwydd a gall y newyddion cyson am y pandemig deimlo'n ddi-baid. Mae hyn i gyd yn effeithio ar iechyd meddwl pobl, yn enwedig y rhai sydd eisoes yn byw gyda chyflyrau fel pryder ac OCD.
Y Coronafeiws a’ch lles
Efallai eich bod chi’n poeni am y coronafeirws a sut y gallai effeithio ar eich bywyd. Gall hyn gynnwys cael cais i aros gartref neu osgoi pobl eraill.
Efallai fod hyn yn teimlo’n anodd neu’n peri straen, ond mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud a allai helpu’ch lles.
Cliciwch y dolenni isod i gael gwybodaeth a allai eich helpu chi.
Y coronafeirws ac ynysu: cefnogaeth i chi’ch hun ac i’ch cydweithwyr
Mae’n deg dweud nad ydym wedi profi amser tebyg i hwn. Ar adeg pan mae pethau’n symud ac yn newid yn gyflym, rydym am sicrhau bod gennych chi wybodaeth ddefnyddiol ac ymarferol pan fo angen.
Gweithio gartref yn dda yn ystod cyfnod o gwarantîn oherwydd y coronafeirws
Gall y syniad o weithio ar eu pen eu hunain ddychryn y rhai nad ydynt wedi gweithio gartref o’r blaen. Mae’r canllaw hwn gan Leapers yn edrych ar beth y gallwch chi ei wneud i gynllunio ar gyfer y posibilrwydd y bydd staff angen hunanynysu, yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer gweithwyr cartref.
Mae gwefan o’r enw 'Canolfan Cydlynu Iechyd Meddwl Genedlaethol GIG Cymru' wedi’i lansio drwy wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys gan yr Uned Comisiynu Gydweithredol Genedlaethol. Sefydlwyd y wefan er mwyn cynnig gwybodaeth benodol am iechyd meddwl yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Mae ap Mindfulness Based Living i’w gael am ddim o Google Play Store ar gyfer defnyddwyr Android ac o’r App Store ar gyfer y rhai sy’n defnyddio dyfeisiau IOS. Teipiwch y geiriau ‘Mindfulness Based Living’ a bydd dewis o arferion ar flaenau eich bysedd!
Mae’r adnodd hwn wedi’i drefnu’n adrannau thematig i gefnogi lles meddyliol, gwydnwch ac adferiad. Waeth ydych chi’n chwilio am hunanofal, am wybod sut i gefnogi cydweithiwr neu am wybod mwy am y sefydliad, mae’r adnodd head first yn lle gwych i gychwyn.
Gallwch gael hyfforddiant cymorth cyntaf seicolegol a helpu pobl ag anghenion gwahanol i ymdopi ag effaith emosiynol COVID-19.
I gefnogi’r rhai sy’n cefnogi eraill, mae HSC NI, mewn cydweithrediad â’r Groes Goch a NHS Education Scotland wedi darparu canllawiau dros dro a modiwl E-ddysgu byr ar Gymorth Cyntaf Seicolegol. Mae’r adnoddau’n berthnasol iawn i unrhyw un sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli gyda chymunedau statudol, cymunedol neu wirfoddol lleol yn y cyfnod hwn.
Mae'r canllaw hwn wedi'i ysgrifennu ar gyfer unrhyw un sy'n cefnogi pobl a brofodd ddigwyddiadau trawmatig, ac mae wedi'i gynllunio i gyd-fynd â hyfforddiant a gynigir gan Fenter Gwella Ansawdd Straen Trawmatig Cymru Gyfan.
Canllawiau gan y Fenter Ymwybyddiaeth Ofalgar ar COVID-19 ac Ymwybyddiaeth Ofalgar: Adnoddau ar gyfer staff iechyd a gofal
Cynlluniwyd y cwrs rhad ac am ddim hwn i’ch helpu chi i wella eich iechyd meddwl a’ch llesiant. Gall teimlo’n ofidus neu’n bryderus gael effaith fawr ar eich iechyd, a gall bywyd fod yn arbennig o anodd i rai pobl.
Iechyd Cyhoeddus Cymru - Bywyd Actif - Cwrs Hunangymorth Ar-Iein Am Ddim