Bydd pob meddyg sylfaen yng Nghymru yn cael goruchwyliwr addysgol ar gyfer pob lleoliad 4 mis o fewn y gylchdro, am ddwy flynedd lawn o’u rhaglen sylfaen, i gynnal trosolwg o ddatblygiad a chynnydd y meddyg o fewn y rhaglen hyfforddi. Mae Bydd pob meddyg sylfaen yng Nghymru yn cael goruchwyliwr addysgol ar gyfer pob lleoliad 4 mis o fewn y gylchdro, am ddwy flynedd lawn o’u rhaglen sylfaen, i gynnal trosolwg o ddatblygiad a chynnydd y meddyg o fewn y rhaglen hyfforddi. Mae canllaw i feddygon sylfaen sy’n dechrau ym mis Awst 2023 yn rhoi mwy o fanylion. Mae ysgol sylfaen Cymru yn defnyddio e-bortffolio TURAS ac anfonir manylion mewngofnodi atoch yn uniongyrchol ar ôl i chi gychwyn ar eich blwyddyn S1.
Bydd pob meddyg sylfaen yng Nghymru yn cael goruchwyliwr addysgol ar gyfer pob lleoliad 4 mis o fewn y gylchdro, am ddwy flynedd lawn o’u rhaglen sylfaen, i gynnal trosolwg o ddatblygiad a chynnydd y meddyg o fewn y rhaglen hyfforddi. ysgol sylfaen Cymru.
Mae AaGIC wedi ymrwymo i gefnogi ei hyfforddeion yn ystod eu hyfforddiant gan gynnwys dechrau teulu. Mae gan bolisi Absenoldeb Mamolaeth Ysgol Sylfaen Cymru (PDF, 188Kb) ganllawiau ynglŷn â chymryd absenoldeb mamolaeth yn ystod eich hyfforddiant sylfaen.
Mae canllawiau Absenoldeb Astudio Ysgol Sylfaen Cymru (PDF, 191Kb) yn cwmpasu egwyddorion absenoldeb astudio, y diwrnodau a'r gyllideb sydd ar gael ym mhob blwyddyn ac yn manylu ar y broses gymeradwyo.
Mae’n bosibl defnyddio Absenoldeb Astudio i gwmpasu amser sy’n cael ei dreulio mewn arbenigedd arall (nad yw’n rhan o’ch cylchdro) fel “sesiwn flasu”.
Lle bo amgylchiadau personol ymgeisydd neu feddyg wedi newid ers cyflwyno’r cais gwreiddiol ar gyfer y rhaglen sylfaen, a’u bod yn teimlo nad ydyn nhw’n gallu dechrau neu barhau â’r rhaglen sylfaen yng Nghymru, gofynnwn iddynt gysylltu ag ysgol sylfaen Cymru yn y lle cyntaf.
Os nad oes cefnogaeth ac addasiadau digonol yn bosibl, gall meddygon wneud cais am IFST drwy’r UKFPO, yn ystod y ffenest ymgeisio am IFST. Mae mwy o fanylion am y meini prawf a'r ffenestr ymgeisio ar wefan UKFPO.
Os oes angen trosglwyddiad brys y tu allan i’r ffenest IFST genedlaethol, bydd hyn yn cael ei drefnu gan yr ysgol sylfaen, serch hynny, dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y caiff hyn ei ystyried.
Mae pob meddyg sylfaen yn gymwys i wneud cais i weithio Llai nag Amser Llawn (LTFT) a bydd yn cael ei drefnu o fewn eu cylchdroadau lle bo hynny'n bosibl. Gofynnwn am rybudd o'r bwriad i weithio LTFT cyn gynted â phosibl, gan roi o leiaf 4 mis cyn y dyddiad cychwyn LTFT sy’n cael ei ffafrio.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y polisi a’r broses gymeradwyo yn ein hadran LTFT, a gellir e-bostio unrhyw gwestiynau at y tîm Hyfforddiant Hyblyg.
Sylwer y bydd LTFT yn arwain at dâl a lwfans gwyliau pro-rata. Yn ei dro, bydd hyn hefyd yn ymestyn yr amser sy'n ofynnol i gwblhau hyfforddiant sylfaen yn gymesur (e.e. os yn gweithio’n gyfwerth ag amser llawn 50%, bydd y rhaglen sylfaen 2 flynedd yn cael ei chwblhau dros 4 blynedd).
Gall meddygon sylfaen wneud cais yn ystod eu blwyddyn S1 i gymryd blwyddyn allan rhwng blwyddyn S1 a S2.
Dewisir ceisiadau ar hap a rhaid eu cyflwyno rhwng dydd Llun 21 Hydref a dydd Gwener 5 Tachwedd 2022. Sylwer bod rhaid cael yr holl lofnodion gofynnol cyn eu cyflwyno. Ni dderbynnir ceisiadau anghyflawn.
Dylai meddygon sylfaen sy’n ystyried cymryd amser allan o’r rhaglen gwblhau Ffurflen Gais Amser Allan o’r Rhaglen Sylfaen (TOFP) (PDF, 130Kb) a darllen y canllawiau yng nghanllaw Sylfaen y DU cyn cwblhau cais. Wrth dderbyn lle OOP, disgwylir ymrwymiad wrth feddygon sylfaen i ddychwelyd i ysgol sylfaen Cymru i gwblhau eu hyfforddiant.cyn cwblhau cais. Wrth dderbyn lle OOP, disgwylir ymrwymiad wrth feddygon sylfaen i ddychwelyd i ysgol sylfaen Cymru i gwblhau eu hyfforddiant.
Dylai meddygon sylfaen sy’n cael cymryd amser allan o’r rhaglen rhwng S1 a S2, ac sy’n dymuno dychwelyd i Gymru i gwblhau eu S2 ym mis Awst 2024, roi gwybod i ysgol sylfaen Cymru o’u bwriad i ddychwelyd, yn ysgrifenedig, erbyn dydd Gwener 20 Hydref 2023.
Dylid anfon ymholiadau e-bost at Sioned Edwards.