Mae ceisiadau am achrediad fel Deintydd â Sgiliau Estynedig (DES) mewn Llawfeddygaeth y Geg ar agor o fis Gorffennaf 2023. Derbynnir ceisiadau ar sail dreigl, gyda’r panel yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i asesu’r holl geisiadau a dderbynnir cyn y dyddiad cau. Gan fod cylch ymgeisio Hydref 2023 yn beilot, bydd adborth gan ymgeiswyr ac aseswyr yn llywio'r broses ar gyfer cylchoedd y dyfodol.
Dylid cyflwyno'ch ffurflen gais wedi'i chwblhau trwy e-bost i HEIW.DES@Wales.nhs.uk. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ei gyfeirio at y tîm cywir, nodwch yn glir yn y llinell bwnc mai at sylw Llawfeddygaeth y Geg y mae.
Dangosir yr amserlenni a ragwelir ar gyfer cylchoedd ymgeisio hydref 2024 a gwanwyn 2025 isod. Gall y rhain newid.
Dylid cyflwyno pob cais erbyn hanner nos ar y diwrnod cau. Bydd unrhyw gyflwyniadau a dderbynnir y tu hwnt i'r terfyn amser yn cael eu cadw tan y cylch ymgeisio canlynol.
Dogfennau Hanfodol
Templedi efallai yr hoffech eu defnyddio (dod yn fuan)
Os oes gennych unrhyw ymholiadau gallwch gysylltu â ni ar HEIW.DES@Wales.nhs.uk. Mae gennym hefyd nifer o gwestiynau cyffredin sy'n darparu gwybodaeth bellach.