Neidio i'r prif gynnwy

Achrediad Deintyddion â sgiliau Estynedig (DES) deintyddiaeth bediatrig

Hyfforddiant Deintyddiaeth Bedriatig Lefel 2

Mae ceisiadau ar gyfer Hyfforddiant Lefel 2 mewn Deintyddiaeth Bedriatig bellach ar agor.

Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i gefnogi deintyddion sydd â diddordeb mewn Deintyddiaeth Bedriatig i ennill y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i gael eu hachredu fel Deintydd â Sgiliau Estynedig mewn Deintyddiaeth Bedriatig (DES Paed Dent), a dechrau darparu gofal Lefel 2 gyda hyder.

 

Strwythur y cwrs:

Bydd y rhaglen yn gwrs rhan-amser 24 mis, yn cynnwys hyfforddiant ymarferol dan oruchwyliaeth am un diwrnod llawn bob mis neu hanner diwrnod ddwywaith y mis. Mae'r lleoliadau hyn wedi'u trefnu ymlaen llaw gyda'r Byrddau Iechyd Lleol, ni fydd disgwyl i'r hyfforddeion drefnu eu lleoliadau eu hunain. Bydd yr hyfforddeion yn cael cefnogaeth i adeiladu portffolio o dystiolaeth, y byddant yn ei gyflwyno i banel i'w ystyried ar gyfer Achrediad fel DES mewn Deintyddiaeth Bedriatig ar ddiwedd y rhaglen. Mae mwy o fanylion ar gael yn llawlyfr y ymgeisydd isod.

Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys 12 diwrnod astudio grŵp ar bynciau perthnasol, a rhwydwaith cefnogaeth cyfoedion.

 

Sut i wneud cais:

Derbynnir ceisiadau tan 5 Gorffennaf 2024, ar gyfer dyddiad cychwyn gynnar fis Hydref 2024.

Mae'r ffurflen gais ar gael i'w lawrlwytho isod, a dylid ei chyflwyno i HEIW.DES@Wales.nhs.uk. Nid yw'n debygol y bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried.

 

Beth os oes gennyf hyfforddiant a phrofiad eisoes?

Disgwylir i geisiadau i wneud cais yn uniongyrchol am achrediad fel Deintydd â Sgiliau Estynedig mewn Deintyddiaeth Bedriatig (DES Paed Dent) agor yn y Gwanwyn 2025.

Bydd mwy o fanylion yn cael eu rhyddhau maes o law.

 

 

Canllawiau ymgeisio

Dogfennau Hanfodol

Llawlyfr