Mae nifer cynyddol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru yn cymryd amser ymaith o’u hyfforddiant am wahanol resymau. Gall y rhesymau hyn gynnwys ffactorau personol fel absenoldeb rhiant, cyfrifoldebau gofalu a gwaeledd neu ddyrchafiad proffesiynol fel datblygiad gyrfa ac ymchwil.
Er mwyn darparu ar gyfer profiadau pawb yn ystod eu hamser ymaith o’u hyfforddiant, dylid cynnig dull unigol, tosturiol a chynorthwyol o ddychwelyd iddynt. Dylai’r dull hwn ystyried eu profiadau yn ystod eu hamser ymaith o’u hyfforddiant, hyd y cyfnod ymaith a’r gofynion.
Datblygwyd y canllawiau hyn ar gyfer meddygon dan hyfforddiant yng Nghymru. Mae AaGIC wrthi'n datblygu canllawiau er budd dychwelyd i'r gwaith ar gyfer pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol dan hyfforddiant.
Datblygwyd y canllawiau hyn i estyn cymorth i feddygon dan hyfforddiant a'u hyfforddwyr drwy gynnig arweiniad ac adnoddau i gynorthwyo unigolion o ran eu profiad o ddychwelyd i hyfforddiant.
Mae'r ffurflenni hyn yn hwyluso trafodaeth rhwng y meddyg dan hyfforddiant a'i hyfforddwyr ynghylch y cymorth rhagweledig a phosibl a fydd ei angen ar ddychwelyd i hyfforddiant.
Mae'r tair ffurflen ar gael o fewn yr un ddogfen.
Mae cymorth ar gael gan yr Uned Cymorth Proffesiynol (PSU) sydd â chyfoeth o brofiad ac sy'n gallu cynnig arweiniad ychwanegol gyda'r broses hon.
Gweminar PSU ‘codi hyder wrth ddychwelyd i hyfforddiant’ ar ddod yn fuan.