Mae Llawfeddygaeth y Geg yn Arbenigedd Deintyddol sy'n ymwneud â llawfeddygaeth y geg, yr wyneb a'r ên ac fe'i hymarferir mewn Addysgu Deintyddol ac ysbytai cyffredinol dosbarth yn ogystal ag mewn Practis Deintyddol Cyffredinol.
Mae gan y maes gyswllt agos â Llawfeddygaeth y Geg a Llawfeddygaeth Enol-wynebol, ond nid yw’n gofyn am radd mewn meddygaeth. Mae cwblhau rhaglen hyfforddi tair blynedd ym maes Llawfeddygaeth y Geg yn arwain at Dystysgrif Cwblhau Hyfforddiant Arbenigol (CCST) a chofrestru ar restr Arbenigwyr y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC).
Mae’r hyfforddiant wedi’i gynllunio i arfogi’r hyfforddai â’r sgiliau angenrheidiol i ymarfer fel Ymgynghorydd mewn Llawfeddygaeth y Geg Diffinnir y rhain yn y cwricwlwm a ragnodir gan y CDC:
Cwricwlwm Llawfeddygaeth y Geg (Pdf)
Mae’r arbenigedd deintyddol hwn yn defnyddio system ISCP. Cliciwch y ddolen isod i fewngofnodi:
Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi
Keith Smart – Ymgynghorydd Llawfeddygaeth y Geg, Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr
Cadeirydd Pwyllgor Hyfforddiant Arbenigedd
David W Thomas – Ymgynghorydd Llawfeddygaeth y Geg, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd
Gweinyddwr Hyfforddiant Arbenigedd
Fran Yuen Lee – Adran Ddeintyddol i Ôl-raddedigion, AaGIC, Tŷ Dysgu, Nantgarw