Deintyddiaeth Bediatrig yw’r gangen o ddeintyddiaeth sy’n ymwneud â thriniaeth, addysg ac ymchwil gyda golwg ar ofal iechyd geneuol cynhwysfawr a therapiwtig ar gyfer plant o’u genedigaeth hyd at eu glasoed, gan gynnwys gofal ar gyfer plant sy’n dangos problemau deallusol, meddygol, corfforol, seicolegol a/neu emosiynol.
Mae’r rhaglen hyfforddi arbenigol Deintyddiaeth Bediatrig yn rhaglen wedi’i chymeradwyo gan y Ddeoniaeth Ddeintyddol i Ôl-raddedigion, ac mae’n cynnwys Rhif Hyfforddiant Cenedlaethol (NTN) ac mae’n arwain at Dystysgrif Cwblhau Hyfforddiant Arbenigol (CCST). Penodiad tair blynedd yw’r rhaglen hon sy’n darparu hyfforddiant clinigol llawn mewn Deintyddiaeth Bediatrig, ac ar ddiwedd hynny bydd yr hyfforddai’n sefyll yr arholiad Aelodaeth mewn Deintyddiaeth Bediatrig. Mae’n ofynnol i’r rhai sy’n dymuno cyflawni’r cymwyseddau ychwanegol sy’n ofynnol i’w penodi ar lefel ymgynghorydd gwblhau cyfnod pellach o hyfforddiant dan oruchwyliaeth. Ymgeisir am swyddi datblygu gyrfa ar ôl CCST drwy gystadleuaeth agored.
Mae’r hyfforddiant wedi’i gynllunio i arfogi’r hyfforddai â’r sgiliau angenrheidiol i ymarfer fel Ymgynghorydd mewn Deintyddiaeth Bediatrig. Diffinnir y rhain yn y cwricwlwm a ragnodir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC):
Cwricwlwm Deintyddiaeth Bediatrig (Pdf)
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen isod.
Beth yw Deintyddiaeth Bediatrig?
Mae’r arbenigedd deintyddol hwn yn defnyddio system ISCP.
Catherine Williams – Ymgynghorydd Deintyddiaeth Bediatrig, Ysbyty Deintyddol Prifysgol, Caerdydd
Shannu Bhatia – Ymgynghorydd Deintyddiaeth Baediatrig, Ysbyty Deintyddol Prifysgol, Caerdydd
Fran Yuen-Lee- Adran Ddeintyddol i Raddedigion, AaGIC, Tŷ Glas, Nantgarw