Neidio i'r prif gynnwy

Deintyddion gofal arbennig

Dental manikin

Deintyddiaeth Gofal Arbennig yw’r gangen o Ddeintyddiaeth sy’n darparu gwasanaethau gofal y geg ataliol a thriniaeth i bobl nad ydynt yn gallu derbyn gofal deintyddol arferol oherwydd rhyw nam corfforol, deallusol, meddygol, emosiynol, synhwyraidd, meddyliol neu gymdeithasol, neu gyfuniad o’r ffactorau hyn.

Mae’n galw am ddull holistig o weithredu sy’n cael ei arwain gan arbenigwyr er mwyn bodloni gofynion cymhleth pobl sydd â nam arnynt. Mae’r hyfforddiant yn adlewyrchu natur Deintyddiaeth Gofal Arbennig drwy gael ei gynnal mewn amrywiaeth o leoliadau gofal sylfaenol, ysbytai a lleoliadau cymunedol. Byddai disgwyl i hyfforddai arbenigol heb ymgymryd â dysgu na, hyfforddiant achrededig a heb brofiad mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig gwblhau’r hyfforddiant mewn tair blynedd.

Bydd yr hyfforddiant yn arwain at ddeintyddion sy'n arbenigo mewn deintyddiaeth gofal arbennig ac a fydd yn gallu cofrestru ar restr arbenigol y Cyngor Deintyddol Cyffredinol mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig ar ôl cwblhau'r hyfforddiant. Mae’r hyfforddiant hwn yn rhaglen sydd wedi’i chymeradwyo gan y Ddeoniaeth i Ôl-raddedigion ym maes Deintyddiaeth, ac mae’n cyd-fynd â’r Rhif Hyfforddiant Cenedlaethol (NTN) ac mae’n arwain at CCST.

Mae’r hyfforddiant wedi’i gynllunio i arfogi’r hyfforddai â’r sgiliau angenrheidiol i ymarfer fel Ymgynghorydd mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig. Diffinnir y rhain yn y cwricwlwm a ragnodir gan y CDC:

Cwricwlwm Deintyddiaeth Gofal Arbennig (Pdf)

I gael rhagor o wybodaeth, llwythwch y ffeil isod:

 

Mae’r arbenigedd deintyddol hwn yn defnyddio’r system ISCP.

Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi a Chadeirydd y Pwyllgor Hyfforddiant Arbenigol

Vicki Jones - Ymgynghorydd mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Specialty Training Administrator
Fran Yuen-Lee – Adran Ddeintyddol i Ôl-raddedigion, AaGIC, Tŷ Dysgu, Nantgarw