Hyfforddai Arbenigedd mewn Deintyddiaeth Bediatrig
rbenigedd / Rhaglen: Deintyddol - Deintyddiaeth Bediatrig
Gradd: ST1
Math o swydd: Hyfforddai Arbenigedd Deintyddol x 1 swydd
Dyddiadau agor: Dydd Iau 24 Hydref 2024 i ddydd Mercher 20 Tachwedd 2024
Gwahoddir ceisiadau am swydd Hyfforddiant Arbenigol 3 blynedd mewn Deintyddiaeth Bediatrig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIP) rhwng Ysbyty Deintyddol Prifysgol Caerdydd a chlinigau deintyddol cymunedol De Cymru.
Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer hyfforddeion sy'n dymuno cael mynediad i raglen hyfforddi sy'n arwain at ddyfarnu Tystysgrif Cwblhau mewn Hyfforddiant Arbenigol (CCST) yn yr arbenigedd hwn. Mae'r swydd hon wedi'i chymeradwyo gan Ddeon Deintyddol Ôl-raddedig Cymru.
Bydd cynnydd yn y rhaglen yn amodol ar adolygiad blynyddol boddhaol. Bydd hyd arferol yr hyfforddiant fel y'i pennir gan gwricwlwm y GDC ar gyfer yr arbenigedd. Bydd cymhwysedd ar gyfer argymhelliad Deon Deintyddol Ôl-raddedig Cymru i ddyfarnu CCST, gan y GDC, yn amodol ar gwblhau gofynion hyfforddi’r Ddeoniaeth.
Bydd disgwyl i'r rhai a benodir wneud trefniadau priodol i deithio i Glinigau Cymunedol yn Ne Cymru.
Mae'r cymwysterau a'r gofynion cofrestru proffesiynol ynghyd â meini prawf cymhwysedd eraill i'w gweld ym manyleb y person.
Bydd angen i bob ymgeisydd llwyddiannus fod yn destun gwiriadau cyn cyflogaeth, gan gynnwys Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
I wneud cais ewch i'r system recriwtio ar-lein: Oriel
Llinell Amser:
Dyddiad agor ceisiadau: 24/10/2024
Dyddiad cau ceisiadau: 20/11/2024
Dyddiad cyfweliad: 18/12/2024 (dros dro)
Dyddiad cychwyn: 01/04/2025 (dros dro)
Atodiadau:
Os oes unrhyw un angen yr atodiadau hyn yn Gymraeg, cysylltwch ag AaGIC.