Neidio i'r prif gynnwy

Datblygiad Proffesiynol Parhaus i ddeintyddion

People following a dental course

Mae’r cyrsiau, digwyddiadau, gweithgareddau a mentrau datblygu’r gweithlu a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yn yr adran hon yn agored i:

  • Ymarferwyr y GIG (GDS)
  • Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol (CDS)
  • Gweithwyr Gofal Deintyddol Proffesiynol (DCPs) sy'n gweithio ochr yn ochr â deintyddion i ddarparu gwasanaethau deintyddol y GIG
  • Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol (GDPs) nad ydynt yn rhan o'r GIG – codir ffioedd.

Rhaid i chi fyw a gweithio yng Nghymru i gymryd rhan.

 

Yr hyn a gynigiwn

Mae’r cyfleoedd i ddatblygu gyda ni yn cynnwys:

  • Efelychiad deintyddol (ymarferol)
  • Diwrnodau astudio traddodiadol
  • Cynadleddau
  • Hyfforddiant mewn ymarfer
  • Dysgu cyfunol
  • Seminarau ar-lein

 

Cyrsiau

Bob blwyddyn rydym yn darparu dros 200 o gyrsiau a digwyddiadau. Trwy’r rhain, rydym yn dyfarnu 13,000 o oriau Datblygiad Proffesiynol Parhaus gwiriadwy i helpu gweithwyr deintyddol proffesiynol fel chi i ddangos eich ymrwymiad i gynnal eich gwybodaeth a’ch sgiliau yn ystod eich gyrfa.

Gallwch ddod o hyd i restr o gyrsiau DPP sydd ar gael ar ein system archebu cyrsiau, Maxcourse.

 

Sicrwydd ansawdd (QA)

Mae'r holl gyrsiau a digwyddiadau ar y tudalennau hyn yn gweithio o fewn fframwaith Sicrwydd Ansawdd (QA). Defnyddir hwn ar gyfer comisiynu, datblygu, darparu a gwerthuso'r rhaglenni. Mae'n adlewyrchu gofynion fframwaith Sicrwydd Ansawdd COPDEND ar gyfer DPP, y Cyngor Deintyddol Cyffredinol a'n strategaeth DPP strategol ehangach.

Gall fod rhai o'n cyrsiau yn cael eu hategu gan gwmnïau masnachol. Fodd bynnag, nid yw AaGIC yn cymeradwyo'r cynhyrchion, yr offer na'r deunyddiau a ddarperir gan y cwmnïau hyn.

 

Gofynion y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC)

Argymhellwn yn gryf eich bod yn ymgyfarwyddo ag arweiniad y Cyngor Deintyddol Cyffredinol ar gyfer DPP. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall y dyletswyddau sydd angen arnoch eu cadw i gynnal cofrestriad, a'r gofynion ar gyfer y cynllun DPP.