Fframwaith Sicrhau Ansawdd ar gyfer datblygu’r gweithlu deintyddol - Diweddarwyd Fframwaith Sicrhau Ansawdd y pwyllgor deoniaid a chyfarwyddwyr deintyddol ôl-radd (COPDEND) ar gyfer datblygu’r gweithlu deintyddol yn 2019, i adlewyrchu’r newidiadau a wnaed i gynllun datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) y cyngor deintyddol cyffredinol (CDC).
Sefydlwyd Y Gymdeithas Ddeintyddol ym 1991 i wasanaethu deintyddion ac ymarferwyr cyswllt ym maes deintyddiaeth ac orthodonteg drwy gyfrwng y Gymraeg. Manteisir ar bob cyfle i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y maes. Mae dwy ran i’r wefan. Yn adran y cleifion, byddwch yn gallu dod o hyd i’r deintydd Cymraeg ei iaith agosaf, darllen taflenni gwybodaeth am wahanol driniaethau, a chael help i ddeall a dysgu termau Cymraeg newydd cyn ymweld â’r deintydd. Mae’r adran broffesiynol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes deintyddiaeth ac mae’n cynnwys newyddion am ddigwyddiadau sydd ar y gweill, straeon am ddigwyddiadau yn y gorffennol, a llawer o ffynonellau gwybodaeth eraill.
Mae gan yr adran ddeintyddol i ôl-raddedigion brofiad hir o ymwneud ag ymchwil a gwerthuso, ar y cyd ag Uned Ymchwil a Gwerthuso Caerdydd mewn Addysg Feddygol a Deintyddol (CUREMeDE).
Mae’r cynllun ymarfer deintyddol cyffredinol (GDC) ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) yn nodi’n glir bod adfyfyrio yn allweddol i bob cofrestrai feddwl am ganlyniadau eu gweithgarwch DPP.